Cyfle Gwaith: Uwch-gynghorwr ar gyfer Sarah Cooper-Lesadd AS
Ystod cyflog (pro rata): £42,904 - £55,159
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Senedd, Bae Caerdydd
Cyfeirnod:MBS-170-26
Prif ddyletswyddau:
- Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r Llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
- Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau yn y Senedd.
- Datblygu perthynas â melinau trafod, adrannau'r Llywodraeth, elusennau a grwpiau eiriolaeth. Gweithio gyda gwahanol ddeddfwrfeydd yn y DU.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys materion cymhleth mewn ffordd ddoeth a diplomyddol.
- Dealltwriaeth o waith y Senedd ac Aelodau o'r Senedd.
- Arbenigedd sylweddol a gafwyd drwy gymhwyster proffesiynol neu academaidd neu brofiad cyfatebol, y gellir ei gymhwyso ym mhob sefyllfa sy’n berthnasol i bolisi ac ymchwil.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.
- Cymhwyster APM (neu gymhwyster cyfatebol)