Cyfle Gwaith: Uwch-gynghorydd (Cyfathrebu / Polisi ac Ymchwil) i Steve Bayliss AS
Ystod cyflog (pro rata): £42,904 - £55,159
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel / Swyddfa Etholaethol
Cyfeirnod: MBS-202-26
Prif ddyletswyddau:
- Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol a buddiannau etholaethol yr Aelod.
- Cynghori’r Aelod ar negeseuon, delwedd gyhoeddus, a chyfleoedd cyfathrebu pwysig.
- Sicrhau naws a llais cyson ar draws pob platfform a chyfathrebiad.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Yn gallu rhoi cyngor gwybodus i’r Aelod a chydweithwyr.
- Arbenigedd sylweddol a gafwyd drwy gymhwyster proffesiynol neu academaidd neu brofiad cyfatebol, y gellir ei gymhwyso ym mhob sefyllfa sy’n berthnasol i cyfathrebu a polisi ac ymchwil
- Yn meddu ar brofiad sylweddol o dirwedd y cyfryngau, gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Profiad o gynghori ar gamau gweithredu gan y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau a dealltwriaeth ohoni.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.
- Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol