Cyfle Gwaith: Uwch Gynghorydd i’r Prif Chwip ar gyfer Grŵp Reform UK

Cyhoeddwyd 19/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/06/2026

Cyfle Gwaith: Uwch Gynghorydd i’r Prif Chwip ar gyfer Grŵp Reform UK

Ystod cyflog (pro rata): £42,904 - £55,159

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-084-26

Diben y swydd: 

Bydd Uwch-gynghorwr Polisi ac Ymchwil sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn arbenigwr ym maes polisi ac ymchwil, a bydd yn chwarae rhan strategol wrth lunio safbwyntiau polisi, wrth arwain gwaith deddfwriaethol, ac wrth ddarparu cyngor gwleidyddol lefel uchel. Bydd yn arwain ym maes ymchwil, yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu polisïau, ac yn gweithredu fel cynghorydd allweddol i'r Aelod ar faterion cymhleth.

 

Prif ddyletswyddau:

  • Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r Llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
  • Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau yn y Senedd.
  • Datblygu perthynas â melinau trafod, adrannau'r Llywodraeth, elusennau a grwpiau eiriolaeth. Gweithio gyda gwahanol ddeddfwrfeydd yn y DU.
  • Drafftio darnau barn, datganiadau i'r wasg a datganiadau polisi ar gyfer y cyfryngau ac ar gyfer gweithgarwch allgymorth cyhoeddus.
  • Goruchwylio gwaith staff lefel is, er mwyn sicrhau gwaith cyson sydd o ansawdd da

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol, gan gynnwys datrys materion cymhleth mewn ffordd ddoeth a diplomyddol.
  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Arbenigedd sylweddol a gafwyd drwy gymhwyster proffesiynol neu academaidd neu brofiad cyfatebol, y gellir ei gymhwyso ym mhob sefyllfa sy’n berthnasol i bolisi ac ymchwil.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  •  Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â David.Thomas@senedd.cymru.

Dyddiad cau: 26 Mehefin am 5yh
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau.