a

a

Cyfle Gwaith: Uwch-Swyddog Cyfarthrebu ar gyfer Grŵp Plaid Cymru

Cyhoeddwyd 02/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/06/2026

Cyfle Gwaith: Uwch-Swyddog Cyfarthrebu ar gyfer Grŵp Plaid Cymru

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-097-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Cyfathrebu Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd â gwaith ymchwil, gwaith sy'n gysylltiedig â'r wasg a'r cyfryngau, yn goruchwylio'r strategaeth gyfathrebu, ac yn rheoli gwaith ymgysylltu proffil uwch.   Bydd yn meddu ar arbenigedd sylweddol a gafwyd drwy gymhwyster proffesiynol neu academaidd neu brofiad cyfatebol, y gellir ei gymhwyso i ystod eang o sefyllfaoedd sy’n berthnasol i waith cyfathrebu.

 

Prif ddyletswyddau:

  • Rheoli staff iau, dirprwyo tasgau, a sicrhau allbwn o ansawdd uchel.
  • Rheoli perthnasoedd â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cyrff llywodraethol, elusennau, busnesau a grwpiau ymgyrchu.
  • Datblygu a gweithredu strategaeth gyfathrebu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau gwleidyddol yr Aelod.

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn
  • Profiad sylweddol o faes y cyfryngau, gan ddefnyddio'r arbenigedd hwn i ddatblygu strategaethau cyfryngau blaengar a rhagweithiol, yn ddelfrydol mewn cyd-destun gwleidyddol. Gwybodaeth am gyfraith y cyfryngau.
  • Profiad o gynghori ar gamau gweithredu ym maes y cyfryngau ar lefel uwch a chefnogi timau i ddatblygu ymgyrchoedd.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â wil.rees@senedd.cymru

Dyddiad cau: 2 Gorffennaf 2026, 5yh
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau