Cyfle Gwaith: Uwch Weithiwr Achos/ Ymchwilydd ar gyfer Lindsay Whittle AS (x2)
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496
Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa'r Etholaeth a Tŷ Hywel
Cyfeirnod: MBS-062-26
Diben y swydd:
Mae’r rôl hon wedi’i rhannu hanner a hanner, (50%/50%), rhwng gwaith achos a gwaith polisi ac ymchwil. O ganlyniad, mae’r rôl hon yn cynnwys elfennau o briodoleddau y Teulu Swyddi Gwaith Achos a’r Teulu Swyddi Polisi ac Ymchwil. Bydd amser deiliaid y rôl wedi’i rannu'n gyfartal rhwng gwaith ymgysylltu yn etholaeth yr Aelod, gan sicrhau hefyd bod etholwyr yn derbyn eiriolaeth a chefnogaeth effeithiol gan gynnwys yn yr achosion mwyaf cymhleth, ac ymgymryd â gwaith ymchwil manwl ar bolisi, drafftio papurau briffio a chefnogi gwaith deddfwriaethol, yn ogystal â gweithredu fel cynghorydd i'r Aelod o’r Senedd ar faterion polisi.
Prif ddyletswyddau:
- Ymdrin â'r achosion mwyaf anodd, sensitif, ac uchel eu proffil a allai fod yn gysylltiedig â meysydd y tu allan i gylch gwaith y Senedd ac a allai ofyn am waith partneriaeth ehangach.
- Cynllunio a rheoli llwythi gwaith eraill yn unol â gofynion yr Aelodau. Goruchwylio gweithwyr achos eraill yn y tîm yn unol â gofynion yr Aelodau, sicrhau bod gwaith yn cael ei drin yn effeithlon ac yn unol â diogelu data, Codau Ymddygiad, a chanllawiau swyddfa.
- Gwneud gwaith ymchwil manwl i faterion deddfwriaethol a pholisi sy'n ymwneud â gwaith achos, megis cyfraith tai, diwygiadau lles a pholisïau mewnfudo.
- Gweithredu fel y prif gyswllt rhwng swyddfa'r Aelodau a chyrff llywodraeth, awdurdodau lleol, elusennau, gwasanaethau cyfreithiol a grwpiau eiriolaeth.
- Mynd i gymorthfeydd yr Aelodau ac ymdrin â phryderon brys etholwyr yn uniongyrchol.
- Datblygu a chynnal systemau rheoli achosion effeithlon, gan sicrhau bod yr holl gofnodion yn ddiogel, yn hygyrch ac yn cydymffurfio â chyfraith diogelu data.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad sylweddol a gwybodaeth helaeth o ran systemau’r Llywodraeth, gwasanaethau cyhoeddus a gweithdrefnau.
- Profiad o reoli a chydgysylltu llwythi achosion neu brofiad perthnasol arall mewn rolau tebyg.
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol (dyletswyddau cyfreithiol).
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.
Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â Lindsay.Whittle-AS@Senedd.Cymru