a

a

Cyfle Gwaith: Uwch-ymchwilydd ar gyfer Grŵp Plaid Cymru

Cyhoeddwyd 02/01/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/06/2026

Cyfle Gwaith: Uwch-ymchwilydd ar gyfer Grŵp Plaid Cymru

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 - £50,496

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos

Natur y penodiad: Parhaol

Lleoliad: Tŷ Hywel

Cyfeirnod: MBS-095-26

 

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Polisi ac Ymchwil Band 1 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn arwain ar waith polisi ac ymchwil, a bydd yn chwarae rhan yn y broses o lunio safbwyntiau polisi ac yn ymgymryd â gwaith deddfwriaethol. Fel arfer, bydd yn arwain ar weithgarwch ym maes ymchwil a chraffu. Bydd yn goruchwylio’r gwaith o ddatblygu polisïau, ac yn gweithredu fel cynghorydd i'r Aelod ar faterion cymhleth.

 

Prif ddyletswyddau:

  • Gwneud gwaith ymchwil manwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r Llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
  • Drafftio adroddiadau, papurau polisi, a dogfennau briffio i gefnogi gwaith yr Aelod.
  • Dadansoddi materion etholaethol, cynigion y Llywodraeth ac adroddiadau pwyllgorau.
  • Nodi heriau a chyfleoedd sy'n dod i'r amlwg o ran polisi, gan gynorthwyo’r broses o lunio ymatebion yr Aelod.
  • Cynnal y safonau uchaf o gywirdeb a chysondeb yn eich gwaith ymchwil eich hun, a darparu cyfeiriad a chymorth i staff eraill

 

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Profiad sylweddol o ddarparu gwaith ymchwil neu waith briffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
  • Profiad o weithio’n uniongyrchol gyda phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur.
  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd.
  • Dealltwriaeth dda o bolisïau'r Llywodraeth, deddfwriaeth a gweithdrefnau'r Senedd.
  • Dealltwriaeth o wahanol fodelau'r broses ymchwil a datblygu polisïau; yn ymwybodol o ba rai sy'n berthnasol i’r maes polisi a pham.

 

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.
  • Cymhwyster NVQ Lefel 4 neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol

 

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â wil.rees@senedd.cymru

Dyddiad cau: 2 Gorffennaf 2026, 5yh
Dyddiad cyfweliad: i'w gadarnhau

Mae Grŵp Plaid Cymru hefyd yn recriwtio ar gyfer swydd Ymchwilydd Band 2 

Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer y ddwy rôl Ymchwilydd gyflwyno un cais yn unig a chyfeirio at bob rôl o fewn y cais hwnnw. Bydd ymgeiswyr sy’n mynegi diddordeb yn y rôl Band 1 hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer y rôl Band 2.