a

a

Cyfle Gwaith: Ymchwilydd ar gyfer Grŵp Plaid Cymru

Cyhoeddwyd 24/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/06/2026

Cyfle Gwaith: Ymchwilydd ar gyfer Grŵp Plaid Cymru

Ystod cyflog (pro rata): £33,233 - £42,727

Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos 
Natur y penodiad: Parhaol 
Lleoliad:Tŷ Hywel 
Cyfeirnod: MBS-094-26

Diben y swydd: 

Bydd Swyddog Polisi ac Ymchwil Band 2 sy’n gweithio i Aelod o'r Senedd yn ymgymryd â gwaith ymchwil polisi manwl, yn drafftio papurau briffio ac yn cefnogi gwaith deddfwriaethol. Bydd yn gweithredu fel cynghorydd i'r Aelod ar faterion polisi, yn helpu i lunio strategaethau gwleidyddol, ac yn ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Prif ddyletswyddau:

  • Drafftio a chyflwyno cwestiynau, cynigion, areithiau a gwelliannau ar gyfer y Senedd.
  • Monitro Biliau, papurau ac adroddiadau pwyllgorau, gan grynhoi’r pwyntiau allweddol.
  • Rhoi cymorth i’r Aelod wrth baratoi ar gyfer dadleuon, pwyllgorau a chyfarfodydd gyda Gweinidogion.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth gref o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati), yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol, a’r gallu i ddarparu cyngor gwybodus i’r Aelod a chydweithwyr ar y materion hyn.
  • Sgiliau dadansoddi ac ymchwil cryf, gyda'r gallu i ddehongli deddfwriaeth a data cymhleth.
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol, gyda'r gallu amlwg i lunio adroddiadau a phapurau briffio clir ac argyhoeddiadol.

Cymwysterau hanfodol: 

  •  Y gallu i ddangos gwybodaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol – e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â wil.rees@senedd.cymru

Dyddiad cau: 02 Gorffennaf 2026, 5yp
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau

 

Mae Grŵp Plaid Cymru hefyd yn recriwtio ar gyfer swydd Uwch-Ymchwilydd Band 1.

Dylai ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer y ddwy rôl Ymchwilydd gyflwyno un cais yn unig a chyfeirio at bob rôl o fewn y cais hwnnw. Bydd ymgeiswyr sy’n mynegi diddordeb yn y rôl Band 1 hefyd yn cael eu hystyried ar gyfer y rôl Band 2.