Cyfle Gwaith: Uwch Ymchwilydd ar gyfer Mark Hooper AS a Sarah Rees AS
Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 29.6 awr yr wythnos / 0.8 cyfwerth ag amser llawn
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Swyddfa Etholaeth, y Senedd / Gartref
Cyfeirnod: MBS-145-26
Prif ddyletswyddau:
- Cynnal ymchwil fanwl ar ddeddfwriaeth, polisïau'r llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
- Drafftio cwestiynau, gwelliannau, areithiau a chynigion yn y Senedd.
- Datblygu perthynas â melinau trafod, adrannau'r Llywodraeth, elusennau a grwpiau eiriolaeth.
- Cefnogi staff Cyfathrebu i ddrafftio datganiadau i'r wasg a datganiadau polisi ar gyfer y cyfryngau ac allgymorth cyhoeddus.
- Goruchwylio gwaith swyddogion polisi, ymchwilwyr llai profiadol a staff eraill, o bosibl, er mwyn sicrhau gwaith o ansawdd uchel.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad sylweddol o ddarparu deunydd ymchwil neu friffio mewn amgylchedd seneddol neu amgylchedd tebyg.
- Profiad o weithio'n uniongyrchol â phobl amlwg a dylanwadol mewn amgylchedd prysur
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Gallu rhoi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.