Cyfle Gwaith: Uwch-ysgrifennydd Grŵp ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK

Cyhoeddwyd 11/06/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/06/2026

Cyfle Gwaith: Uwch-ysgrifennydd Grŵp ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK

Ystod cyflog (pro rata): £39,274 – £50,496

Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol.  Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.

Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 6 mis gyda'r potensial i'w ymestyn yn dilyn perfformiad boddhaol.
Lleoliad: Y Senedd
Cyfeirnod: MBS-054-26

Diben y swydd: 

Budd Uwch-ysgrifennydd Grŵp Band 1 yn gweithio i Swyddfa'r Grŵp Reform yn ymgymryd ag ystod eang o weithgareddau rheoli a gweinyddol sy'n berthnasol i redeg Swyddfa'r Grŵp a'i holl weithgaredd yn esmwyth. Efallai y bydd gan yr Uwch-ysgrifennydd Grŵp atebolrwydd uniongyrchol am gynllunio a monitro gweithgaredd y Senedd a blaenoriaethu dyraniadau ar gyfer meysydd gweithgaredd penodol, er enghraifft busnes y Cyfarfod Llawn, ymweliadau Aelodau a gweithgaredd ymgysylltu.

Prif ddyletswyddau:

  • Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol.  Rhywfaint o gyfrifoldeb dros reoli rhai cydweithwyr, gan ddarparu rheolaeth linell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
  • Yn gyfrifol am gynghori neu hyfforddi eraill ar ystod o faterion sy'n safonol ar gyfer y maes gwaith e.e. iechyd a diogelwch, rheoli cofnodion.
  • Sicrhau llywodraethu da, cydymffurfio â rheolau seneddol, codau ymddygiad, a chanllawiau moesegol.

Gwybodaeth a phrofiad hanfodol: 

  • Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Y gallu i roi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
  • Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd swyddfa, gan gynnwys datrys materion cymhleth yn ddoeth a diplomyddol, ac yn ddelfrydol o fewn amgylchedd gwleidyddol.
  • NEU Profiad o fod mewn rôl gymharol yn ymdrin â gohebiaeth gymhleth, dyddiaduron a digwyddiadau a rhedeg swyddfa brysur.

Cymhwysterau hanfodol: 

  • Gradd, NVQ (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc perthnasol e.e. Gwleidyddiaeth, Busnes neu Weinyddiaeth Gyhoeddus neu brofiad perthnasol sylweddol.

Awgrymir eich bod yn darllen manylebau’r swydd a’r person cyn gwneud cais am y swydd hon. I gael manylion am y swydd ac i geisio am y swydd, cysylltwch â David.Thomas@Senedd.Wales


Dyddiad cau: 25 Mehefin 2026
Dyddiad cyfweliad: I'w gadarnhau