Cyfle Gwaith: Ysgrifennydd y Grŵp ar gyfer Swyddfa Grŵp Reform UK
Ystod cyflog (pro rata): £33,233 – £42,727
Mae disgwyl i'r holl staff newydd ddechrau ar isafswm graddfa'r band cyflog priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Tymor Penodol am 6 mis gyda'r potensial i'w ymestyn yn dilyn perfformiad boddhaol.
Lleoliad: Y Senedd
Cyfeirnod: MBS-055-26
Diben y swydd:
Mae Ysgrifennydd y Grŵp, Band 2 sy’n gweithio i'r Grŵp Reform yn ymgymryd ag ystod eang o waith sy'n berthnasol i redeg swyddfa'r Aelod, a gwaith yr Aelod o ddydd i ddydd, yn esmwyth. Gall gwaith o'r fath gynnwys cyllid, rheoli dyddiaduron, cadw cofnodion neu waith sy'n gysylltiedig â phobl.
Prif ddyletswyddau:
- Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau a rheoliadau ariannol y Senedd.
- Amrywiaeth o weithgareddau gweinyddol gan gynnwys rheoli cofnodion yn effeithiol a gweithgareddau sy'n gysylltiedig ag archwilio.
- Yn sicrhau bod adnoddau swyddfa yn cael eu defnyddio'n effeithiol.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio mewn timau, gyda'r gallu i gydlynu staff, interniaid a gwirfoddolwyr yn effeithiol.
- Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
- Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd, NVQ (neu gymhwyster cyfatebol) mewn pwnc perthnasol e.e. Gwleidyddiaeth, Busnes neu Weinyddiaeth Gyhoeddus neu brofiad perthnasol sylweddol.