Cynorthwyydd Personol ar gyfer Andrew Griffin AS
Ystod cyflog (pro rata): £26,345 – £33,873
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 37 awr yr wythnos.
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Tŷ Hywel, Bae Caerdydd / O Bell
Cyfeirnod: MBS-216-26
Prif ddyletswyddau:
- Rheoli negeseuon e-bost, llythyrau ac ymholiadau ffôn sy'n dod i mewn gan etholwyr, rhanddeiliaid a chyrff cyhoeddus; drafftio ac anfon gohebiaeth arferol, olrhain ymatebion heb eu datrys a chyfeirio materion polisi neu waith achos sylweddol at y cydweithiwr priodol.
- Cefnogi ymchwil ar faterion lleol a pholisïau'r Llywodraeth.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â pholisïau a chanllawiau moesegol y Senedd.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r materion sy'n berthnasol i'r ardal leol.
- Gwybodaeth am y gyfraith ac arfer da sy'n gysylltiedig â diogelu data a diogelwch gwybodaeth.
- Profiad a dealltwriaeth ymarferol o’r gyfraith ac arfer da sy’n gysylltiedig ag iechyd, diogelwch a llesiant, gan gynnwys asesiadau risg, mesurau rheoli, a gwybod pryd i geisio cyngor cymwys.
Cymhwysterau hanfodol:
- Y gallu i ddangos dealltwriaeth neu brofiad o ystod o weithdrefnau gwaith yn seiliedig ar brofiad gwaith perthnasol a/neu gymhwyster galwedigaethol e.e. NVQ lefel 3 neu 4 neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol.