Pennaeth Swyddfa ar gyfer Anthony Slaughter AS a Paul Rock AS
Ystod cyflog (pro rata): £42,904 - £55,159
Disgwylir i bob aelod newydd o staff ddechrau ar raddfa isaf y band priodol. Bydd staff unigol, yn amodol ar berfformiad boddhaol, yn symud i fyny'r raddfa bob blwyddyn ar y dyddiad y gwnaethant ddechrau yn eu swydd nes eu bod yn cyrraedd yr uchafswm graddfa ar gyfer eu band.
Oriau gwaith: 33.3 awr yr wythnos
Natur y penodiad: Parhaol
Lleoliad: Bae Caerdydd
Cyfeirnod: MBS-208-26
Prif ddyletswyddau:
- Goruchwylio staff, sicrhau gweithrediadau swyddfa llyfn a dirprwyo cyfrifoldebau’n effeithiol. Rheoli cydweithwyr yn uniongyrchol, gan fod yn rheolwr llinell ar ran yr Aelod. Gall hyn gynnwys recriwtio, gwerthuso a nodi anghenion hyfforddi neu ddatblygu.
- Goruchwylio'r defnydd o adnoddau'r Senedd ac adnoddau staff i gynnal ymchwil fanwl i ddeddfwriaeth, polisïau'r llywodraeth a thueddiadau gwleidyddol.
- Drafftio cwestiynau, gwelliannau, areithiau a chynigion yn y Senedd.
Gwybodaeth a phrofiad hanfodol:
- Profiad o weithio'n effeithiol mewn amgylchedd gwleidyddol seneddol (AS, ASau'r DU, ASA neu gyfwerth), gan gynnwys datrys materion cymhleth mewn ffordd ddoeth a diplomyddol.
- Dealltwriaeth o waith y Senedd ac Aelodau o'r Senedd.
- Dealltwriaeth lawn o'r gyfraith a’r fframweithiau rheoleiddio y mae’r Aelodau a’r Grwpiau yn gweithredu o’u mewn. Mae hyn yn cynnwys fframweithiau’r Senedd (safonau ymddygiad, gwariant ac ati) yn ogystal â fframweithiau ehangach a chyffredinol. Gallu rhoi cyngor gwybodus i’r Aelodau a chydweithwyr.
Cymhwysterau hanfodol:
- Gradd neu gymhwyster cyfatebol mewn pwnc perthnasol, neu brofiad addas arall.