Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi’i sefydlu gan y Senedd i graffu ar bolisi a deddfwriaeth, ac i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif mewn meysydd penodol. Mae'r meysydd hyn yn cynnwys y Gymraeg, diwylliant; y celfyddydau; diwydiannau creadigol; yr amgylchedd hanesyddol; cyfathrebu, darlledu; y cyfryngau, chwaraeon a chysylltiadau rhyngwladol.
Mae gan y Pwyllgor chwe Aelod sy'n dod o'r pleidiau gwahanol a gynrychiolir yn y Senedd, ac mae’n cael ei gadeirio gan Delyth Jewell AS.