Pecyn cymorth hyrwyddo

Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn awyddus i wybod beth yw barn y cyhoedd am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu cynrychiolaeth menywod yn y Senedd.

Rydym yn gofyn am eich help fel bod pawb yng Nghymru yn cael y cyfle i leisio eu barn.

 

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn agor ar 15 Mawrth 2024 ac yn cau ar 12 Ebrill 2024.

 



Beth mae’r Pwyllgor am ei wybod?

Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn edrych ar Fil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) Llywodraeth Cymru.

Byddai’r newidiadau arfaethedig ym Mil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn golygu y byddai’n ofynnol i bleidiau gwleidyddol sicrhau bod o leiaf hanner eu hymgeiswyr a enwebir ar gyfer etholiadau’r Senedd yn fenywod.

Mae'r Pwyllgor yn awyddus i gael barn y cyhoedd am y Bil, gan gynnwys:

  • a oes angen y ddeddfwriaeth er mwyn cyflawni nod y Bil o wneud y Senedd yn fwy effeithiol drwy sicrhau ei bod yn fras yn cynrychioli cyfansoddiad y boblogaeth o ran rhywedd.
  • a oes rhwystrau i weithredu’r Bil, ac a allai’r Bil arwain at ganlyniadau anfwriadol.

Gweld ymgynghoriad cyhoeddus


Beth ydyn ni eisiau gennych chi?

Rhannu ein hymgynghoriad cyhoeddus â'ch rhanddeiliaid a’ch cynulleidfaoedd ar y cyfryngau cymdeithasol, fel bod gan bawb gyfle i ddweud eu dweud.

Dyma rywfaint o gynnwys a awgrymir i'ch helpu chi.

X (Twitter yn flaenorol)

Postiad 1

A ddylid newid y gyfraith i gynyddu cydbwysedd rhwng y rhywiau yn etholiadau’r Senedd?

Mae’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn @SeneddCymru am gael eich barn am newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad: https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol

Postiad 2

Mae Llywodraeth Cymru am gynyddu cynrychiolaeth menywod yn y Senedd drwy newid y gyfraith etholiadaol.

Rhannwch eich barn CHI am y cynlluniau hyn â’r Pwyllgor Biliau Diwygio yn @SeneddCymru

Cymerwch ran yn y sgwrs nawr! https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol

Postiad 3

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newid y gyfraith i sicrhau bod o leiaf hanner yr ymgeiswyr a enwebir gan bleidiau gwleidyddol yn etholiadau’r Senedd yn fenywod.

Mae Pwyllgor Biliau Diwygio @SeneddCymru am gael eich barn am y cynlluniau.

Dweud eich dweud: https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol

 

Postiad 4

Brysiwch! Peidiwch â cholli’r cyfle i ddweud eich dweud.

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newid y gynyddu cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd.

Rhannwch eich barn erbyn 12 Ebrill! https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol

Postiad 5

Dyma eich cyfle olaf i rannu eich barn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd.

Peidiwch ag oedi! Dweud eich dweud yn yr ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddo gau! https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol


Facebook a LinkedIn

Postiad 1

A ddylid newid y gyfraith i wella cydbwysedd rhwng y rhywiau yn etholiadau’r Senedd?

Mae Pwyllgor Biliau Diwygio Senedd am gael eich barn CHI am newidiadau arfaethedig Llywodraeth Cymru.

Dweud eich dweud! Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol

Postiad 2

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n gweithio ar newid deddfau etholiadol ar gyfer y Senedd i gynyddu cynrychiolaeth menywod mewn gwleidyddiaeth.

Mae Pwyllgor Biliau Diwygio y Senedd yn awyddus i wybod eich barn ar y cynlluniau hyn.

Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol

Postiad 3

Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried newid y gyfraith i sicrhau bod o leiaf hanner yr ymgeiswyr y mae pleidiau gwleidyddol yn eu henwebu ar gyfer etholiadau’r Senedd yn fenywod.

Mae Pwyllgor Biliau Diwygio’r Senedd yn awyddus i glywed eich barn am y cynlluniau hyn.

Dweud eich dweud! Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad cyhoeddus. https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol

Postiad 4

Brysiwch! Peidiwch â cholli’r cyfle i gael dweud eich dweud.

Mae Llywodraeth Cymru’n ystyried newid y gyfraith i sicrhau bod o leiaf hanner yr ymgeiswyr y mae pleidiau gwleidyddol yn eu henwebu ar gyfer etholiadau’r Senedd yn fenywod.

Mae Pwyllgor Biliau Diwygio y Senedd yn awyddus i wybod eich barn ar y cynlluniau hyn. https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol

Rhannwch eich barn erbyn 12 Ebrill!

Postiad 5

Dyma eich cyfle olaf i rannu eich barn am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu cydbwysedd rhwng y rhywiau ymhlith ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd.

Peidiwch ag oedi! Dweud eich dweud yn yr ymgynghoriad cyhoeddus cyn iddo gau! https://senedd.cymru/ymgynghoriad-bil-senedd-cymru-rhestrau-ymgeiswyr-etholiadol


Delweddau’r cyfryngau cymdeithasol

Tapiwch i agor y ddelwedd, ac yna tapiwch eto ac arbed.