Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Diwygio’r Senedd: Beth mae’n ei olygu? (Ac unrhyw gwestiynau eraill!)

Cyhoeddwyd 30/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 29/09/2023   |   Amser darllen munud

Ym mis Mai 2022, cyhoeddodd un o bwyllgorau’r Senedd ei adroddiad yn amlinellu’r newidiadau yr hoffai eu gweld i’r ffordd y mae’r Senedd yn gweithio. 

Cyhoeddwyd yr adroddiad, Diwygio ein Senedd, gan y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd. Mae’n amlygu’r newidiadau y gellid eu cyflwyno i gryfhau rôl y Senedd a rhoi llais cryfach i bobl Cymru.

Mae Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a gyflwynwyd y mis hwn, yn cynnig diwygiadau sylweddol i’r ffordd y mae’r Senedd yn gweithredu. Felly, beth yw’r broses o ddiwygio’r Senedd a pham bod angen diwygio’r Senedd?

Beth yw diwygio'r Senedd?

Mae diwygio’r Senedd yn cyfeirio at gynigion i newid cyfansoddiad y Senedd i gyd-fynd yn well ag anghenion pobl Cymru.

A oes angen diwygio'r Senedd?

Mae’r Senedd heddiw yn sefydliad gwahanol iawn i’r un a sefydlwyd dros 20 mlynedd yn ôl. Mae ei bwerau wedi cynyddu'n sylweddol.  Bellach gall ddeddfu a gosod trethi Cymru – penderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pob person yng Nghymru.

Er gwaethaf cyfrifoldebau cynyddol, mae’r Senedd bresennol yn dal i fod yn llai na Senedd yr Alban â 129 o Aelodau a Chynulliad Gogledd Iwerddon â 90 o Aelodau. Ar hyn o bryd, mae gan y Senedd 60 o Aelodau.

Mae’r Aelodau’n dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Maent yn cwestiynu ei phenderfyniadau, yn ei gwthio i wneud gwelliannau, ac yn gwneud yn siŵr bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n ddoeth.

Mae’r Pwyllgor yn credu bod yn rhaid i fwy o bwerau olygu mwy o atebolrwydd. Y ddadl yw bod angen senedd ar Gymru a all graffu’n effeithiol ar y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud ar ran y cyhoedd y mae’n ei wasanaethu, ac nad yw’r system bresennol yn caniatáu i hynny gael ei wneud cystal ag y dylai fod.

Cafodd gwaith blaenorol ar ddiwygio’r Senedd ei wneud gan y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol yn 2017 a’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd yn 2020, gyda’r ddau yn argymell bod angen newid.

Mae’r adroddiad gan bwyllgor y Senedd yn dweud bod yn rhaid i newidiadau i gryfhau’r Senedd a chynrychioli pobl Cymru’n well gael eu cyflawni erbyn 2026, ac mae modd eu cyflawni erbyn hynny.

Pa newidiadau sy'n cael eu hargymell?

Mae rhai o’r newidiadau allweddol sy’n cael eu hargymell fel rhan o ddiwygio’r Senedd yn cynnwys:

Newid nifer yr Aelodau

Ar hyn o bryd mae gan y Senedd 60 o Aelodau.

Mae 40 ohonynt yn cynrychioli etholaethau Cymru, ac mae 20 ohonynt yn cynrychioli’r pum rhanbarth.

Mae adroddiad yr wythnos hon yn argymell bod angen 96 o Aelodau i gryfhau’r Senedd, sy’n debycach i nifer y cynrychiolwyr mewn gwledydd eraill o faint tebyg i Gymru.

Gwell cydraddoldeb o ran rhywedd yn y Senedd

Mae gan Gymru hanes arbennig o ran cydraddoldeb rhywedd yn ei senedd. Yn 2003, y Senedd oedd y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd i gyflawni cydraddoldeb perffaith rhwng y rhywiau, gyda 30 o fenywod a 30 o ddynion yn cynrychioli pobl Cymru.

Er bod hyn wedi gostwng mewn etholiadau diweddar, mae gan Gymru yn gyfran uchel o fenywod etholedig o hyd.

Mae pwyllgor y Senedd yn argymell cyflwyno cwota rhywedd, a fyddai’n gwarantu cydbwysedd. Os cytunir ar hyn, y Senedd fyddai’r senedd gyntaf yn y DU i wneud hynny.

Pryd bydd y gwaith o ddiwygio'r Senedd yn dechrau?

Argymhellir yn gryf bod y Senedd yn cael ei newid erbyn 2026, sef blwyddyn etholiad nesaf y Senedd.

Gosododd Llywodraeth Cymru Fil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar 18 Medi 2023. Bydd y Bil yn awr yn destun craffu a rhaid iddo gael uwch-fwyafrif (cefnogaeth gan 40 o’r 60 o Aelodau) i basio.

Os bydd y Bil yn pasio, bydd yn dod yn gyfraith.

Sut bydd hyn o fudd i bobl Cymru?

Mae’r Pwyllgor yn dadlau, o dan y system bresennol, nad yw’r gwaith o archwilio a herio cynlluniau a chamau gweithredu Llywodraeth Cymru yn digwydd cystal ag y dylai.

Mae'n credu y bydd cryfhau’r Senedd, gan roi’r nifer gywir o Aelodau iddi, yn ei rhoi mewn sefyllfa well i edrych yn fanwl ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, cwestiynu ei phenderfyniadau a'i dwyn i gyfrif.

Dywed y Pwyllgor y bydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwell i bobl Cymru.

A fydd y newidiadau yn effeithio ar y ffordd yr ydym yn pleidleisio?

Mae'r Pwyllgor wedi awgrymu y dylid ffurfio 16 o etholaethau newydd.

Gwnaeth yr adolygiad diweddar o etholaethau Senedd y DU argymell 32 ar gyfer Cymru. Cynigir y dylid paru’r rhain i ffurfio 16 o etholaethau’r Senedd.

Mae’r Pwyllgor hefyd yn awgrymu chwe Aelod o’r Senedd i bob etholaeth.

Mae’n argymell rhestrau cyfrannol caeedig – mae hyn yn golygu y byddai pleidleiswyr yn pleidleisio dros blaid yn hytrach nag unigolyn. Byddai gan y blaid restr gyfrannol – â niferoedd cyfartal o ddynion a menywod – a chaiff ymgeiswyr eu hethol yn ôl eu trefn ar y rhestr.

Felly, pe bai plaid yn ennill tair sedd o chwech mewn ardal etholaeth benodol, byddai’r tri pherson cyntaf a neilltuwyd ar ei rhestr yn cael eu hethol i’r Senedd.

Ble gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Darllenwch yr adroddiad llawn ar Ddiwygio’r Senedd a dilynwch gynnydd Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau).