abida

abida

Fy Mhrofiad i yn y Senedd

Cyhoeddwyd 22/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 28/03/2023   |   Amser darllen munudau

As-salamu alaykum / Hello / Shwmae, Abida ydw i!

Rwyf wedi cael y pleser o fod yn rhan o’r garfan gyntaf o interniaid ar gyfer y rhaglen YMLAEN yn y Senedd, ynghyd â thri intern ardderchog arall, sef Afsana, Lukas a Suad. Felly, roeddwn i'n meddwl y byddwn yn rhannu fy mhrofiadau o’r rhaglen hon gyda phawb.

Y rheswm y gwnes i gais

Cyn gwneud cais i'r Senedd, roedd gennyf rai rhagdybiaethau ynghylch y 'math' o berson a fyddai'n cael ei gyflogi yn y Senedd neu sefydliad gwleidyddol, yn seiliedig ar yr hyn yr oeddwn wedi'i weld. Wrth dyfu i fyny, nid oeddwn wedi gweld llawer o wleidyddion na staff yn gweithio yn y Senedd a oedd yn edrych fel fi, neu a oedd wedi cael yr un profiadau bywyd â fi. Felly, fel rhywun sydd o dras Bangladeshaidd, rhywun sydd o ffydd Islamaidd, rhywun sy’n dod o ardal economaidd-gymdeithasol isel, a rhywun sy’n cynrychioli’r genhedlaeth gyntaf yn fy nheulu i fynd i’r brifysgol, nid oeddwn yn meddwl mai fi oedd y 'math’ o berson a fyddai’n cael ei gyflogi.

O ran y Senedd ei hun, nid oeddwn wedi gweld llawer o gynrychiolaeth yma o blith y rheini sydd o gefndir BAME. Felly, roedd yn braf gweld y Senedd yn gwneud ymdrech ddiffuant a brwd i gynyddu cynrychiolaeth BAME mewn swyddi HEO o fewn y sector cyhoeddus, gyda’r rhaglen YMLAEN yn un ffordd o wneud hynny. Felly, pan welais y disgrifiad swydd, roeddwn i’n siŵr fy mod i am wneud cais.

Un o’r ffactorau eraill wnaeth fy argyhoeddi i wneud cais ar gyfer yr interniaeth oedd y ffaith nad oedd angen profiad yn y maes dan sylw, a’r ffaith y byddai cyfleoedd hyfforddiant, datblygu a hunan-ddatblygu yn cael eu cynnig drwy gydol y flwyddyn. Mae gennyf radd yn y gyfraith, ac er nad oes gennyf unrhyw brofiad penodol ym maes cyfathrebu, mae gennyf ddiddordeb angerddol yn y cyfryngau cymdeithasol, y newyddion, a gwleidyddiaeth. Felly, roedd y cyfle hwn yn edrych fel rôl berffaith a fyddai’n cydweddu â’r rhan fwyaf o'm diddordebau.

Yr interniaeth

Y teulu brenhinol, ymgyrchoedd y pwyllgorau, hetiau bwced, artistiaid a enwebwyd yn yr Oscars, gemau'r Gymanwlad, cyfweliadau â’r microffon bach ... mae'r rhestr yn un hirfaith

Fel y soniwyd uchod, mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur yn y Senedd – ac yn flwyddyn mor swreal i mi! Dywedir mai'r Senedd yw calon Cymru, ac rydych chi wir yn teimlo hynny pan rydych chi’n gweithio yma.

Yn yr haf y llynedd, tra’r oeddwn ar leoliad gyda’r tîm newyddion, cefais gyfle i ysgrifennu fy natganiad cyntaf erioed i'r wasg, ar gyfer lansio arddangosfa 'Affairs of the Art' yn y Senedd! Crëwyd yr arddangosfa gan Joanna Quinn, artist a enwebwyd am Oscar. Roedd y cyfle i ddod i adnabod Joanna yn brofiad mor bleserus, gan iddi rannu’r straeon mwyaf difyr am ei phrofiadau yn yr Oscars.

 

Joanna Quinn

Joanna Quinn's awards

Yn ogystal, cynhaliodd y Senedd ddathliadau dychwelyd adref ar gyfer athletwyr Gemau’r Gymanwlad, a chefais gyfle i gwrdd â rhai o’r athletwyr a oedd wedi ennill medalau dros ein gwlad. Dwi’n weddol siŵr mai’r diwrnod hwnnw oedd diwrnod poethaf y flwyddyn hefyd, felly roedd yn achlysur bythgofiadwy am sawl rheswm!

 

Rhai o’r eiliadau mwyaf swreal i mi oedd yr hyn a ddigwyddodd yn ystod ymweliad y Brenin, yn dilyn marwolaeth y Frenhines. Roeddwn wedi ymuno â’r tîm digwyddiadau yn ystod y cyfnod hwnnw, ac wedi cael y cyfle i fwynhau taith gerdded gyda’r Prif Weinidog a’r Llywydd. Yn ystod ymweliad y Brenin, mi wnes i gynnal cyfweliadau â rhai o aelodau Senedd Ieuenctid Cymru a oedd wedi siarad â’r Brenin. Hefyd, cefais gyfle i brofi’n uniongyrchol safon ragorol gwaith holl dimau’r Senedd, a gyd-dynnodd yn arbennig er mwyn creu ymweliad di-dor.

 

Rwyf wedi cael y cyfle i arwain ar ymgyrchoedd y pwyllgorau yn ystod fy lleoliad gyda'r tîm Digidol. Un ymgyrch amlwg y cefais gyfle i arwain arni oedd yr ymgyrch a gynhaliwyd mewn perthynas ag ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol i drais yn erbyn menywod, a oedd yn ymdrin ag anghenion menywod mudol. Roedd hwn yn bwnc sensitif, yr oedd eisoes gennyf ddiddordeb ynddo. Roeddwn i wir am gyfleu neges adroddiad y Pwyllgor mewn ffordd a fyddai’n ddealladwy i’r cyhoedd yng Nghymru, a hynny gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol. Dyma’r sefyllfa a roddodd gyfle i mi ffynnu o fewn fy rôl. Meddyliais am wahanol ffyrdd o arddangos ein cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio templedi newydd ac iaith syml. Cafodd y gwaith hwn ei groesawu gan y tîm a’n cynulleidfaoedd, ac mae’r templedi wedi cael eu defnyddio eto gan y tîm!

 

Ah Tachwedd 2022 - Cymru yng Nghwpan y Byd! Er mwyn dathlu’r ffaith bod Cymru’n mynd i Gwpan y Byd, mi wnes i greu rîl ar gyfer Instagram a oedd yn cynnwys Aelodau o’r Senedd yn trosglwyddo het fwced Cymru. Dyma’r prosiect lle cefais yr hwyl fwyaf wrth weithio arno, a hynny o bell ffordd. Nid llawer o bobl sy’n gallu dweud eu bod wedi taflu hetiau bwced o gwmpas gydag Aelodau yng Nghwrt y Senedd! Cefais gyfle hefyd i gwrdd â Rob Page a Noel Mooney yn ystod y sesiwn holi ac ateb a gynhaliwyd yn y Senedd, a chyfle hefyd i gyfweld â phêl-droedwyr ifanc o glwb llawr gwlad lleol ym Mae Caerdydd.

 

 

 

Mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn bobl ifanc hynod ysbrydoledig, ac rwyf wedi cael cyfleoedd anhygoel i gydweithio â nhw hefyd. Yn ystod eu penwythnos preswyl, mi wnes i geisio meddwl am wahanol ffyrdd o gyfweld â’r Aelodau. Felly, am y tro cyntaf ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol, mi wnes i gynnal cyfweliadau ag Aelodau o’r Senedd Ieuenctid … gan ddefnyddio microffon bach!

 

 

Mae'r rhestr wir yn un hirfaith, ac mae fy mhrofiadau a'm hamser yma yn y Senedd wedi bod yn fythgofiadwy!

Y Tîm

Mae’r cyfle i weithio ochr yn ochr â phobl mor greadigol, a phobl sydd â meddyliau mor ddisglair, yn brofiad anhygoel. Yma yn y Senedd, mae'r profiad hwn yn mynd gam ymhellach, gan fod y bobl yma mor hawddgar hefyd. Wrth weithio yma, nid wyf erioed wedi teimlo'r angen i ffrwyno agweddau ar fy mhersonoliaeth neu fy nghefndir. (Ni ddylai fod gofyn i chi wneud hynny beth bynnag!)

Y tîm cyfathrebu, a phob adran sydd wedi cyflogi intern eleni, yw’r timau mwyaf cefnogol, calonogol a chroesawgar y gallai person eu cael. (Heb anghofio'r holl dimau eraill ar draws y Senedd, wrth gwrs.)

Rwyf wedi gallu arwain ar ymgyrchoedd a chyfarfodydd, ac mae gennyf hyder llawn ynof fi fy hun wrth wneud hynny, a hynny yn sgil y gefnogaeth gyson, yr ymddiriedaeth, yr anogaeth gadarnhaol a’r sicrwydd a roddwyd i mi gan y tîm cyfathrebu. Gwnaeth y tîm wneud i mi deimlo'n hynod gyfforddus o ran dod â fy holl hunan i'r gwaith, ac rwy'n teimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi, sy'n golygu llawer iawn i rywun fel fi, a oedd yn dioddef ychydig o syndrom twyllwr (“imposter syndrome”) pan wnes i ddechrau!

Yr interniaid

Ni fyddai modd i mi beidio â sôn am y tri intern ardderchog arall sydd wedi rhannu'r daith hon â mi: Lukas, Afsana a Suad.

O'r cychwyn cyntaf, gwnaeth y pedwar ohonom dynnu ymlaen yn dda iawn. Dwi wedi cael amser braf iawn gyda’r interniaid eraill, gan gynnwys ein sesiynau hyfforddi gyda’n gilydd, ein gwersi Cymraeg gyda’n gilydd, yr amser pan wnes i eu gorfodi i greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, ein hymdrechion i gynnal ymweliad i Gaerdydd gan gymrodoriaeth Windsor, a llawer mwy.

 

 

Yn eu cwmni, rwyf wedi dysgu sgiliau caled, ond hefyd sgiliau gydol oes a gwybodaeth. Mae Afsana, Lukas a Suad yn bobl hynod ddeallus ac ysbrydoledig, ac mae’n fraint o’r mwyaf imi allu eu cyfri’n ffrindiau mynwesol. Ni fyddai fy mhrofiadau fel intern wedi bod mor fywiog a chyfoethog hebddynt.

Y diwedd?

Efallai mai dyma ddiwedd yr interniaeth, ond yn bendant, nid dyma ddiwedd y daith i mi o ran datblygu proffesiynol a phersonol - taith y mae'r interniaeth hon wedi’i hwyluso gymaint. Mae fy mhrofiadau, ynghyd â’m holl hyfforddiant, wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i’n ffynnu pan fyddaf yn cael y cyfle i ddatblygu fy sgiliau mewn amgylchedd mor iach a chefnogol.

Felly, boed yn y Senedd, neu mewn rhyw weithle arall, rwy’n benderfynol o ddefnyddio’r holl sgiliau yr wyf wedi’u meithrin drwy gydol yr interniaeth hon, gan ychwanegu gwerth at unrhyw sefydliad yr wyf yn rhan ohono – a hefyd, dod â fy holl hunan i’r gwaith.

Rwy’n annog unrhyw un i wneud cais i fod yn intern ar y rhaglen YMLAEN, sydd ar hyn o bryd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer yr ail garfan o interniaid!