Y Senedd, Bae Caerdydd

Y Senedd, Bae Caerdydd

Yr Agoriad Seremonïol – Beth sy’n digwydd ar y diwrnod?

Cyhoeddwyd 12/10/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/10/2026   |   Amser darllen munud

Bydd Agoriad Seremonïol y Seithfed Senedd yn cael ei gynnal ddydd Iau 15 Hydref 2026. Bydd Eu Mawrhydi, Y Brenin a'r Frenhines, yn ymweld â'r Senedd i nodi agoriad ffurfiol tymor newydd.

Mae’r digwyddiad yn ddathliad o’r Senedd, ond mae hefyd yn ddathliad o bobl a chymunedau, gyda’u lleisiau, profiadau a dyheadau yn cael eu cynrychioli o fewn ei muriau.

Gadewch i ni edrych yn fanylach ar yr hyn fydd yn digwydd ar y diwrnod.

 

Y byrllysg yn cyrraedd

Fel llawer o seneddau, mae gan Senedd Cymru fyrllysg seremonïol. Ffon addurnedig yw’r byrllysg, wedi'i wneud o fetelau, ac fe'i defnyddir yn ystod digwyddiadau ffurfiol.

Yn ystod yr Agoriad Seremonïol, caiff y byrllysg ei gario i’r Senedd gan gludwr y byrllysg a fydd yn arwain Aelodau o'r Senedd trwy adeilad y Senedd i mewn i'r Siambr (y siambr drafod). Bydd Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn cerdded gyda chludwr y byrllysg. 

 

Dyfodiad Eu Mawrhydi

Bydd Eu Mawrhydi Y Brenin a'r Frenhines yn cyrraedd y Senedd, lle cânt eu cyfarch gan y Llywydd (llefarydd) y Senedd, Huw Irranca-Davies AS, a’r Prif Weinidog, Rhun Ap Iorwerth AS,

 

Y seremoni

Yn ystod y seremoni, caiff y byrllysg ei osod yn ei le priodol yn y Siambr i nodi agoriad swyddogol y Seithfed Senedd.

Bydd y Llywydd yn croesawu’r Aelodau o’r Senedd a gwesteion. Dilynir hyn gan anerchiad gan Ei Fawrhydi Y Brenin. Bydd y Prif Weinidog yn ymateb i araith Ei Fawrhydi.

 

Perfformiadau yn y Siambr

Bydd Côr Merched Plastaf, enillwyr y ‘Golden Voices Montserrat Grand Prix’ yn gynharach eleni, yn perfformio 'O Gymru' gan y cyfansoddwr Rhys Jones. 

Y Delynores Frenhinol, Mared Emyr Pugh-Evans, fydd yn perfformio’r cyfeiliant cerddorol i’r seremoni. 

 

Ymadawiad Eu Mawrhydi o'r Senedd

Cyn gadael y Senedd, bydd Eu Mawrhydi yn cwrdd â grwpiau cymunedol lleol a chynrychiolwyr o sefydliadau partner Senedd Ieuenctid Cymru.

I goffáu 60 mlynedd ers trychineb Aberfan, bydd Eu Mawrhydi yn cwrdd â Noah Jones, disgybl yn Ysgol Gynradd Gymunedol Troedyrhiw ym Merthyr Tudful, a'i deulu. Helpodd Stephen Andrew, hen dad-cu Noah, i achub llawer o blant yn ystod y trychineb. Yn ymuno â Noah mae Gareth Jones, goroeswr o Aberfan y cafodd ei fywyd ei achub gan hen daid Noah, a Len Moss a oedd yn rhan o dîm achub Aberfan. 

Wrth i'w Mawrhydi adael y Senedd, bydd Côr Clybiau Ffermwyr Ieuanc Cymru yn perfformio 'Fel hyn da ni fod'. Recordiwyd y gân ganddynt yn gynharach eleni i ddathlu pen-blwydd y sefydliad yn 90 oed.  

 

Cwestiynau cyffredin

Beth yw Agoriad Seremonïol?

Mae agoriad seremonïol y Senedd yn ddigwyddiad a gynhelir ar ôl etholiad Senedd, pan fydd Pennaeth y Wladwriaeth yn ymweld â Senedd Cymru. Mae’n cynnwys anerchiadau gan y Llywydd, y Prif Weinidog a’r Brenin. Gallwch ddod o hyd i'r holl fanylion allweddol yn ein blog 'Beth yw Agoriad Seremonïol y Senedd?'

A allaf ymweld â'r Senedd ar ddiwrnod yr Agoriad Seremonïol?

Bydd adeiladau’r Senedd a’r Pierhead ar gau ar 15 Hydref 2026, ond mae croeso i chi ymgynnull y tu allan i’r Senedd i wylio a bod yn rhan o’r digwyddiad arbennig hwn. Disgwylir y bydd Eu Mawrhydi yn cyrraedd Bae Caerdydd tua amser cinio.

Oes modd gwylio’r seremoni?

Oes. Caiff y seremoni ei darlledu’n fyw ar Senedd TV a YouTube.

Pwy yw'r Llywydd a beth yw ei rôl?

Huw Irranca-Davies AS yw Llywydd Senedd Cymru.

Mae rôl y Llywydd yn debyg i rolau Llefarwyr a Llywyddion mewn seneddau ledled y byd. Er y gall union gyfrifoldebau'r swydd amrywio o wlad i wlad, ac efallai bod gwahanol deitlau ganddynt, mae'r rôl yn debyg.

Y Llywydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod y Senedd yn cael ei rhedeg mewn modd teg ac effeithiol. Mae’n cadeirio’r Cyfarfod Llawn, yn llywio dadleuon ac yn sicrhau bod yr holl Aelodau yn cael eu trin yn gyfartal.

Rhagor o wybodaeth am rôl y Llywydd.

Ble alla i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Senedd?

Os ydych chi eisiau gwybod pwy yw eich Aelodau chi, sut mae'r Senedd yn gweithio, a sut gallwch gymryd rhan, ewch i'r dudalen Crwydro.