Cylchffordd Cymru: Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 27/04/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/04/2017

Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar Gylchffordd Cymru.

Yn ôl Mr Ramsay:

"Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn tynnu sylw at nifer o wendidau sylweddol yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymdrin hyd yn hyn â'i phecyn cymorth gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer prosiect arfaethedig Cylchffordd Cymru. 

"Pryder penodol yw bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi nodi diffyg goruchwyliaeth gan Lywodraeth Cymru o daliadau gan y prosiect i gwmnïau cysylltiedig, a hefyd y defnydd o arian trethdalwyr i brynu cwmni peirianneg â'i leoliad yn Swydd Buckingham a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr yn ddiweddarach. 

"Unwaith eto, gwelwn ddiffyg llywodraethu cadarn yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian cyhoeddus i ariannu cwmnïau preifat, fel y gwelodd y pwyllgor hwn yn achos Kancoat a Chronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio.

"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn awyddus i archwilio pob un o'r materion hyn yn fanwl yn y dyfodol agos."

Mae'r adroddiad llawn ar gael gan Swyddfa Archwilio Cymru.