Cynnig i gyflwyno Bil Bwyd (Cymru) yn ennill cefnogaeth y Senedd

Cyhoeddwyd 17/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/11/2021   |   Amser darllen munudau

Mae cynnig yr Aelod o’r Senedd Peter Fox AS i gyflwyno Bil Bwyd (Cymru) newydd wedi ennill cefnogaeth y Senedd mewn pleidlais heddiw.

Roedd yr Aelod wedi cyflwyno cynnig yn y Cyfarfod Llawn heddiw (dydd Mercher, 17 Tachwedd) i ofyn i'r Senedd gytuno i gyflwyno Bil Bwyd (Cymru), a gafodd ei ddewis yn y Balot Bil Aelodau cynta'r Chweched Senedd ym mis Medi.

Diben y Bil yw sefydlu system fwyd mwy cynaliadwy yng Nghymru i wella diogelwch bwyd, gwella lles economaidd-gymdeithasol Cymru a chynnig rhagor o ddewis i ddefnyddwyr.

 

Beth sydd wedi digwydd heddiw?

Roedd y ddadl heddiw yn rhoi cyfle i'r Aelod gyflwyno achos dros y Bil mewn egwyddor, a gofyn am gefnogaeth yr Aelod.

Nid dadl ar union fanylion Bil Bwyd (Cymru) fuodd heddiw, gan y bydd hynny'n digwydd fel rhan o broses y Senedd ar gyfer pob deddf ddrafft.

Pleidleisiodd yr Aelodau o blaid egwyddorion y Bil - gwyliwch y ddadl a'r bleidlais ar Senedd TV.

Peter Fox AS

Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae gan Peter Fox AS 13 mis er mwyn paratoi’r manylion a chyflwyno’r Bil yn ffurfiol i’r Senedd.

Mi fydd Aelod yn pleidleisio ar y cynigion, ac os yw’n llwyddiannus, bydd Bil Bwyd (Cymru) yn symud drwy gamau craffu’r Senedd.



Beth yw‘r balot Bil Aelod?

Mae’r balot Bil Aelod yn rhoi cyfle i Aelod o'r Senedd (ac eithrio Gweinidogion y Llywodraeth) gyflwyno cynnig ar gyfer deddfwriaeth newydd maen nhw’n dymuno ei weld.

  • Gall Aelod gynnig unrhyw beth y mae gan y Senedd y pŵer cyfreithiol i'w newid, ac eithrio trethiant.
  • Gwahoddir Aelodau i gyflwyno eu cynigion ac yna dewisir un ar hap.
  • Cynhelir y balot sawl gwaith yn ystod tymor y Senedd, gyda’r amseriad yn cael ei osod gan y Llywydd. Cafodd balot gyntaf y Senedd hon ei chynnal ym mis Medi.
  • Os caiff ei ddewis, mae gan yr Aelod gyfle i gynnal dadl ar y cynnig, ac i ofyn am gytundeb y Senedd i ddatblygu’r cynnig ymhellach ac i gyflwyno Bil yn ffurfiol i’r Senedd.
  • Mi fydd Bil Aelod yn destun yr un broses graffu gan y Senedd ag unrhyw Fil arall ac os bydd yn llwyddiannus, yn dod yn Gyfraith newydd yng Nghymru.

 

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am Filiau Aelodau a Bil Bwyd (Cymru) ar gael yma