Yn yr hydref y llynedd, bu problemau difrifol ar rwydwaith rheilffyrdd Cymru yn dilyn Storm Callum. Ar ei waethaf, gostyngodd fflyd trenau Trafnidiaeth Cymru o gyfanswm o 127 i 86.
Cafodd nifer fawr o wasanaethau eu gohirio neu eu canslo gan adael teithwyr naill ai'n sownd neu ar drenau gorlawn.
Mae Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol wedi bod yn ystyried yr hyn a achosodd y problemau ar y rheilffyrdd ac mae wedi dod i'r casgliad bod angen i bawb weithio gyda'i gilydd i ddarparu gwasanaeth gwell i gwsmeriaid yn hytrach na thaflu bai ar ei gilydd.
Enillodd Trafnidiaeth Cymru fasnachfraint diweddaraf Cymru a'r Gororau a rhoddodd y bai ar ei ragflaenydd, sef Trenau Arriva Cymru am beidio â chynnal a chadw ei gerbydau i'r safon ofynnol.
Cyfeiriodd James Price o Drafnidiaeth Cymru at wrthdaro a ddigwyddodd ar ôl tua phedair neu bum wythnos:
“Y pryder yn y cyfnod cychwynnol oedd nad oedd mynediad, efallai, mor rhydd ag y dylai fod a’n bod wedi gorfod troi at ddeddfwriaeth i sicrhau hynny, Rhaid i mi ddweud, ar ôl y gwrthdaro cychwynnol, roedd mynediad yn haws.”
Dywedodd Tom Joyner, cyn-reolwr gyfarwyddwr Trenau Arriva Cymru, wrth y Pwyllgor:
“ein blaenoriaeth oedd rhedeg y gwasanaeth cystal ag y gallem ar gyfer y cwsmeriaid, ac yna trosglwyddo’r fasnachfraint mewn modd proffesiynol i Drafnidiaeth Cymru. Wrth baratoi ar gyfer yr hydref, gwnaethom lawer mwy nag oedd angen o dan y cytundeb.”
Rhoddodd Llywodraeth Cymru y bai ar Lywodraeth y DU am danfuddsoddi yn y rhwydwaith. Meddai'r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Wel, roedd y cytundeb wedi’i seilio ar y rhagdybiaeth na fyddai dim twf, ac ychydig iawn oedd yn y contract a fyddai’n gorfodi Arriva i gyflwyno cerbydau newydd. Roedd hyn hefyd yn broblem roedd Llywodraeth y DU yn gyfrifol amdani. Roeddem ni’n rheoli hyn ers 2007 ar ffurf cytundeb asiantaeth ond, yn y pen draw, cyfrifoldeb Llywodraeth y DU ydoedd.”
Er i Lywodraeth y DU ymateb drwy ddweud bod gan Lywodraeth Cymru yr holl bwerau yr oedd eu hangen arni ac mai hi oedd yn gyfrifol am y fasnachfraint o dan Gytundeb Partïon ar y Cyd a oedd yn disgrifio hawliau a rhwymedigaethau gwahanol y ddwy lywodraeth o ran rheoli'r fasnachfraint.
Daeth y Pwyllgor i’r casgliad mai rhan o’r broblem oedd y ffaith bod dail wedi’u chwythu ar y cledrau gan ei gwneud yn anodd i olwynion trên droi. O ganlyniad, byddai’r olwynion yn llithro yn hytrach na'n rholio, gan greu ‘olwynion gwastad’ , tebyg i siâp darn ugain ceiniog, ac roedd angen eu trwsio neu eu newid. Fodd bynnag, clywodd y Pwyllgor nad oedd amgylchiadau dros yr hydref fawr gwahanol i’r amgylchiadau yn ystod y blynyddoedd blaenorol.
Dywedodd Network Rail wrth y Pwyllgor:
“Mae pob hydref yn wahanol, felly mae’r patrwm wedi bod yn wahanol dros y blynyddoedd diwethaf. Ond o’i gymharu â’r llynedd – roedd y patrwm yn debyg.”
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru y byddent yn gosod dyfeisiau pwrpasol rhag i’r olwynion lithro a byddai hynny’n lleihau’r problemau yn hydref 2019 a bod cerbydau newydd, mwy dibynadwy, wedi’u harchebu.
Dywedodd Russell George AC, Cadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau
“Y teithwyr oedd ar eu colled yr hydref hwn yn sicr. Cafodd pobl eu gadael ar blatfformau neu bu’n rhaid iddynt deithio ar drenau gorlawn a oedd eisoes yn hwyr.”
“Nid oes fawr o ddiben taflu bai mewn sefyllfaoedd fel hyn a chredwn y dylai pawb gydweithio i ddarparu’r gwasanaeth o safon y mae teithwyr Cymru yn ei haeddu.
“Ers y problemau’r hydref diwethaf, rydym yn falch o weld bod rhywfaint o’r gwaith wedi’i gwblhau eisoes ac mae hynny’n rheswm inni fod yn obeithiol ynghylch y gwasanaeth yn yr hydref eleni.
“Rydym wedi gofyn i Drafnidiaeth Cymru gyhoeddi casgliadau llawn ei ymchwiliad i’r hyn ddigwyddodd y llynedd a’r camau ychwanegol y bydd yn eu cymryd rhag i’r un problemau godi eto.”
Mae'r Pwyllgor yn gwneud 13 o argymhellion yn ei adroddiad, gan gynnwys:
- Dylai Trafnidiaeth Cymru gyhoeddi canfyddiadau ei adroddiad ymchwiliad llawn terfynol i achosion yr amharu ar y rheilffyrdd cyn gynted ag y bo modd, ynghyd â chynllun gweithredu sy’n nodi sut mae’n ymateb i’r canfyddiadau a manylion llawn ei gynlluniau parodrwydd ar gyfer hydref 2019;
- Dylai Trafnidiaeth Cymru weithio gyda grwpiau teithwyr, gan gynnwys Transport Focus, i archwilio ffyrdd o ddarparu iawndal ychwanegol heb orfod talu costau sylweddol lle mae amhariad difrifol i wasanaethau, fel y digwyddodd yn ystod hydref 2018. Rhaid cydnabod yr effaith ddifrifol ar deithwyr waeth beth yw natur y setliad ariannol ar gyfer rheilffyrdd yng Nghymru. Os bydd tarfu ar y raddfa hon yn digwydd eto, rydym yn disgwyl i fesurau iawndal ychwanegol gael eu cymhwyso; a,
- Mae profiad blaenorol yn amlygu’r angen am ymagwedd glir at nodi a rheoli risgiau yn gadarn yn y dyfodol o ran cerbydau. Rhaid i’r Pwyllgor a’r cyhoedd sy’n teithio gael sicrwydd cyhoeddus bod Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud asesiad llawn o’r risgiau sydd ynghlwm wrth ei gynlluniau ar gyfer caffael a chyflwyno cerbydau newydd i’r rhwydwaith, a sut bydd y rhain yn cael eu lliniaru, pa un ai a ddisgrifir y ddogfen gyhoeddedig hon fel ‘strategaeth gerbydau’ neu dan enw arall.
Darllen yr adroddiad llawn:
Adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Amharu ar y Rheilffyrdd yn ystod yr hydref (PDF, 683 KB)