Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru o dan fygythiad o gael eu hallgludo heb ragor o amser a chymorth

Cyhoeddwyd 17/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2021   |   Amser darllen munudau

Gallai dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sydd âr hawl i aros yng Nghymru ar ôl Brexit barhau i fod o dan fygythiad o gael eu hallgludo os nad ydynt yn cael rhagor o amser a chymorth, yn ôl Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Senedd.

Mewn ymchwiliad dilynol, yn sgil yr ymchwiliad gwreiddiol i newidiadau posibl i’r rhyddid i symud a gynhaliwyd yn 2019, clywodd y Pwyllgor fod rhai o’r pryderon a fynegwyd ar y pryd yn parhau, gyda phryderon newydd ynghylch problemau posibl yn sgil pandemig y Coronafeirws. Mae’r problemau hyn yn cynnwys rhwystrau sy’n atal pobl rhag cael y cymorth cywir wrth lenwi’r ffurflen gais i sicrhau Statws Preswylwyr Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, sy’n rhoi’r hawl iddynt fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig.

Cyn y pandemig, roedd nifer o sefydliadau’n rhoi cyngor personol wyneb yn wyneb, a oedd yn arbennig o ddefnyddiol i’r bobl hynny sydd heb fynediad at dechnoleg neu sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio technoleg o’r fath. Mae cyfyngiadau’r cyfnod clo wedi cwtogi’r gwasanaethau hyn yn ddifrifol, gan arwain at bryderon y gallai rhai pobl gael eu colli.

Gyda dyddiad cau o 30 Mehefin wedi’i bennu ar gyfer cyflwyno ceisiadau, mae’r Pwyllgor am i Lywodraeth Cymru barhau ag ymdrechion i gysylltu â dinasyddion yr UE sy’n byw yng Nghymru a chynnig cymorth iddynt. Hefyd, mae’r Pwyllgor am weld cymorth yn cael ei ymestyn heibio i’r dyddiad cau i bobl sydd o bosibl wedi cael anawsterau wrth lenwi’r ffurflen gais oherwydd eu hamgylchiadau.

Ar ôl 30 Mehefin, dim ond mewn achosion unigol sydd â ‘sail resymol’ y bydd Llywodraeth y DU yn caniatáu estyniad.

“O ran beth yn fwy y gall y Llywodraeth ei wneud nawr yn benodol i helpu pobl sydd mewn sefyllfaoedd bregus, rwy’n credu, yn gyntaf, fod yn rhaid cael eglurder o ran ystyr ‘sail resymol’ os nad yw’n bosibl cadw at y dyddiad cau ym mis Mehefin. Nid wyf yn credu bod hynny’n hollol glir ar hyn o bryd.”

– Marley Morris – Y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus.

Mae’r Pwyllgor wedi gofyn am eglurder gan Swyddfa Gartref y DU ynghylch yr hyn sy’n cyfri fel ‘sail resymol’.

Cafodd y ffaith y gellir ond ymgeisio ar-lein ei chanmol a’i beirniadu gan dystion. Un pryder mawr yw’r diffyg o ran unrhyw ddogfennaeth ffisegol y gall dinasyddion yr UE ei chyflwyno i ddangos bod ganddynt yr hawl i aros yma.

Mae hyn wedi arwain at gwestiynau y gallai pobl ei chael hi’n anodd dod o hyd i swydd, rhentu cartref neu hyd yn oed ddychwelyd i’r DU os ydynt yn gadael am gyfnod.

Gofynnodd un cyfranogwr mewn grŵp ffocws a allai hyn ddod yn broblem fawr yn y dyfodol:

“…fel gyda phopeth, mae pethau’n newid gyda’r oes ddigidol. Mae’n bosibl fod yn well gan y genhedlaeth hŷn gael dogfennau papur i gadarnhau eu statws. Wedi dweud hynny, ni allaf ond meddwl, 20 mlynedd o nawr, y byddwn yn wynebu senario debyg i’r Windrush eto, lle byddwn yn clywed bod yn rhaid inni fynd adref.”

– dyfyniad o gyfweliad yn ystod grwpiau ffocws y Pwyllgor.

Ategwyd y pwynt hwn gan y Sefydliad Bevan yn ei dystiolaeth i’r ymchwiliad.

Dywedodd David Rees AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol:

“Mae gan ddinasyddion yr UE rôl bwysig i’w chwarae yng Nghymru, ac maent eisoes yn chwarae rôl bwysig nid yn unig o ran yr economi ond yn ein cymdeithas yn fwy cyffredinol. O dan y cytundeb Brexit, mae ganddynt yr hawl i aros yn y DU ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod croeso iddynt.

“Er nad yw’r cyfrifoldeb dros fewnfudo wedi’i ddatganoli, mae’r Pwyllgor yn pryderu bod y cymorth ardderchog a oedd ar gael cyn y pandemig yn lleihau a bod risg y bydd pobl yn cael eu colli.

“Gyda’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ym mis Mehefin yn agosáu, credwn ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn dwysau ei hymdrechion i gyrraedd dinasyddion yr UE a sicrhau bod pobl sydd ddim o reidrwydd â mynediad at adnoddau digidol fel y rhyngrwyd yn cael yr amser sydd ei angen arnynt i gyflwyno eu ceisiadau.”

Mae’r Pwyllgor wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a Swyddfa Gartref y DU i nodi ei ganfyddiadau diweddaraf.