Pwyllgor Deddfwriaeth y Senedd yn poeni am Fil Masnach y DU ac yn rhybuddio am ganlyniadau difrifol i ddemocratiaeth Cymru

Cyhoeddwyd 30/07/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 01/12/2020   |   Amser darllen munudau

​Nid yw’n glir sut mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod buddiannau dinasyddion Cymru, busnesau Cymru, a democratiaeth Cymru yn cael eu hystyried ym Mil Masnach Llywodraeth y DU, yn ôl Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad y Senedd. 

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad beirniadol heddiw, sy’n tynnu sylw at ddiffygion yn null gweithredu Llywodraeth Cymru o ran Bil Masnach y DU, sy’n angenrheidiol o ganlyniad i ymadawiad y DU â’r UE. 

Mae'r adroddiad ar gael yn llawn yma.

Mae'r Pwyllgor yn rhybuddio bod Llywodraeth Cymru wedi dibynnu’n ormodol ar ddisgresiwn Llywodraeth y DU, a heb sicrhau bod gofynion digonol i’r Senedd graffu’n gadarn ar bwerau eang i wneud rheoliadau sy'n effeithio ar Gymru.

Mae’r Pwyllgor wedi codi pryderon ynghylch ehangder y pwerau i wneud rheoliadau ym Mil y DU, a dywedodd ei fod yn disgwyl i Weinidogion Cymru sicrhau nad yw’r pwerau yn ormodol er mwyn diogelu democratiaeth Cymru. 

Mae’r Pwyllgor hefyd yn pryderu bod y Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy’n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ac ni chafodd ei argyhoeddi gan sicrwydd y Gweinidog nad yw Llywodraeth y DU “yn bwriadu arfer y pwerau hyn”. 

Dywedodd Mick Antoniw AS, Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: “Drwy gydol ein gwaith craffu ar Fil Masnach 2017-19, gwnaethom godi pryderon ynghylch cwmpas y pwerau i wneud rheoliadau yn y Bil. Ein prif bryder yr adeg honno oedd bod y Bil yn caniatáu i Weinidogion y DU wneud rheoliadau sy'n diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Deddf 2006). 

“Er gwaethaf ein pryderon a godwyd dro ar ôl tro, rydym wedi ein dychryn bod y Gweinidog wedi dweud nad yw wedi cyflwyno unrhyw sylwadau i Lywodraeth y DU ynghylch y pŵer hwn sy’n parhau yn y Bil cyfredol. Fel Pwyllgor, rydym wedi pwysleisio dro ar ôl tro ei bod yn bwysig ystyried yr hyn y gellir ei wneud o dan ddarpariaeth ddeddfwriaethol benodol, ac nid yr hyn y mae Llywodraeth ar y pryd yn dweud y bydd yn ei wneud â phŵer”.

Dywedodd fod y Pwyllgor yn gorfod, unwaith yn rhagor, atgoffa llywodraethau o’r “egwyddor gyfansoddiadol na ddylai cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd gael ei addasu gan reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU.”

Oblygiadau sylweddol a hirdymor i sectorau allweddol, gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, iechyd a gweithgynhyrchu


Tynnodd Mick Antoniw AS sylw hefyd at bryderon y Pwyllgor ynghylch defnyddio cytundebau nad ydynt yn rhwymo rhwng llywodraethau, yn lle atebion deddfwriaethol, a dywedodd: 

“Ar ôl i’r Bil gael ei ddeddfu, bydd ganddo oblygiadau sylweddol a hirdymor posibl i sectorau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys amaethyddiaeth, pysgodfeydd, iechyd a gweithgynhyrchu. Rydym yn cydnabod bod y broses o negodi cytundebau masnach ledled y DU yn parhau i fod yn bŵer a gedwir gan Lywodraeth y DU. Fodd bynnag, Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am weithredu'r cytundebau masnach hynny mewn meysydd datganoledig yng Nghymru, ac nid ydym yn credu fod cytundebau rhynglywodraethol nad ydynt yn rhwymo yn ffordd effeithiol o ddiogelu buddiannau Cymru. Yn ein barn ni, mae’r dull hwn yn peri risg uchel ac felly, yn y pen draw, yn ddiffygiol”

O ran Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol eraill Biliau ynghylch Brexit Llywodraeth Cymru, yn ystod y tri mis diwethaf mae'r Pwyllgor hefyd wedi cyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a’r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 2 ar gyfer y Bil Amaethyddiaeth, ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pysgodfeydd, a'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Amgylchedd. Mae pob adroddiad wedi'i gyhoeddi ar-lein yma. 

Yn yr adroddiad hwn ar yr Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach, mae'r Pwyllgor yn gwneud cyfanswm o 9 Argymhelliad, gan gynnwys: 

Argymhelliad 7 - Dylai'r Gweinidog geisio gwelliant i'r Bil i sicrhau ei bod yn ofynnol i Lywodraeth y DU gael cydsyniad y Senedd cyn gwneud rheoliadau o dan gymal 2(7).

Argymhelliad 8 - Dylai'r Gweinidog geisio trafodaethau brys gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr ymrwymiadau a wnaed ar weithrediad yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach, yn benodol o ran ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynghylch argymhellion yr Awdurdod Rhwymedïau Masnach, a cheisio newid yr ymrwymiadau y cytunwyd arnynt fel eu bod yn adlewyrchu statws Llywodraeth Cymru fel y Llywodraeth yng Nghymru yn briodol, ac nid fel adran o Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.

Mae adroddiad llawn y Pwyllgor ar gael yma