Dylid ehangu a chryfhau rôl y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol (NICfW) arfaethedig i Gymru os yw am gyflawni ei botensial, yn ôl un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig sefydlu’r NICfW yn ddiweddarach eleni. Os caiff ei gymeradwyo, bydd y comisiwn yn gyfrifol am lunio cynlluniau hirdymor ar gyfer datblygiadau fel ffyrdd a rheilffyrdd yng Nghymru, cyflenwad ynni a darpariaeth o ran y rhyngrwyd, a rhoi cyngor ar y materion hyn.
Ar ôl cymryd tystiolaeth gan amrywiaeth o sefydliadau – gan gynnwys cyrff seilwaith yn Awstralia – mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn argymell newidiadau i gryfhau’r corff, ei wneud yn fwy annibynnol ac ehangu ei gylch gorchwyl.
Mae’r argymhellion allweddol yn cynnwys:
- Dylid sefydlu’r NICfW ar fyrder, ond gyda rhagdybiaeth y bydd deddfwriaeth yn dilyn i’w wneud yn fwy annibynnol a hybu ei statws;
- Dylid ehangu’r cylch gorchwyl arfaethedig i gynnwys y cyflenwad o dir ar gyfer datblygiadau tai sy’n arwyddocaol yn strategol a seilwaith ategol cysylltiedig; a
- Dylai’r NICfW fod yn ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r Pwyllgor hefyd wedi gwneud argymhellion i wneud y corff yn fwy annibynnol. Mae’r rhain yn cynnwys argymell bod y sefydliad yn cael ei leoli y tu allan i Gaerdydd, mewn lleoliad sy’n cynnig gwerth am arian, ac yn rhannu adeilad gyda chorff cyhoeddus arall.
Argymhelliad arall yw y dylai cadeirydd y comisiwn fod yn destun gwrandawiad cyn penodi gerbron un o bwyllgorau’r Cynulliad.
Dywedodd Russell George, Cadeirydd y Pwyllgor: “Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet weledigaeth rymus o gorff arbenigol annibynnol a all atal penderfyniadau dadleuol sydd â chanlyniadau pellgyrhaeddol rhag troi’n faterion gwleidyddol.
“I gyflawni hyn, bydd angen i’r NICfW allu cynnig arbenigedd technegol gwirioneddol, y gallu i gydgysylltu a’r gallu i roi golwg hirdymor ar y ffordd yr ydym yn cynllunio seilwaith yng Nghymru.
“Mae’r her hon yn un sylweddol – ond yn her y mae modd ei chyflawni. Rydym yn gobeithio y bydd ein hargymhellion yn sail ar gyfer sefydlu Comisiwn gwirioneddol annibynnol yn gyflym a fydd – unwaith iddo gael ei gryfhau gan ddeddfwriaeth – yn gallu sicrhau bod Cymru yn datblygu’r seilwaith hanfodol yr ydym oll yn dibynnu arno i fod yn genedl ffyniannus yn yr unfed ganrif ar hugain.”
Pwysleisiodd Mr George bwysigrwydd perthynas â phartneriaid allweddol i sicrhau bod gwaith y comisiwn yn ategu’r hyn a wneir gan sefydliadau sy’n bodoli eisoes.
Ychwanegodd: “Bydd llwyddiant y sefydliad yn dibynnu ar ei allu i ddatblygu’r cysylltiadau hynny gyda chomisiwn seilwaith y DU, gyda Gweinidogion Cymru, gydag awdurdodau rhanbarthol a lleol a hefyd gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Chyfoeth Naturiol Cymru.”