Cawcws Menywod y Senedd

Cawcws Menywod y Senedd

Menywod y Senedd yn llywio gweledigaeth ar gyfer gwleidyddiaeth gyfartal rhwng y rhywiau

Cyhoeddwyd 07/06/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2023   |   Amser darllen munud

Cymru gyfartal a chwbl gynhwysol, lle mae pawb yn cael eu grymuso i ymgysylltu â gwleidyddiaeth waeth beth fo’u rhywedd, yw gweledigaeth Cawcws Menywod y Senedd.   

Gyda holl Aelodau benywaidd y Senedd yn aelod ohono, cenhadaeth y Cawcws yw hybu a chefnogi cyfranogiad ehangach mewn gwleidyddiaeth. Bydd y Cawcws yn eirioli polisïau, cyfreithiau a mentrau sy'n cefnogi cydraddoldeb rhywedd yn y Senedd ac mewn cymdeithas.  

Bydd y Seneddwr Fiona O’Loughlin, Cadeirydd Cawcws Menywod Iwerddon yn yr Oireachtas, yn traddodi prif araith ysbrydoledig yn y Senedd ddydd Mercher 7 Mehefin.    

Gan elwa ar brofiad Cawcws Seneddol Menywod Iwerddon, bydd y digwyddiad yn edrych ar rôl seneddau o ran llywio cydraddoldeb rhywiol mewn cymdeithas, profiadau seneddwyr benywaidd, a sut mae dinasyddion benywaidd yn ymgysylltu â gwaith seneddau.  

Mae cawcysau menywod ledled y byd wedi cyfrannu at ddatblygiadau yn hawliau menywod, ac mae Aelodau o’r Senedd yn awyddus i ddysgu gan eraill, meddai’r Gwir Anrhydeddus Elin Jones AS, Llywydd y Senedd:   

“Mae’r Cawcws Menywod yn ddatblygiad pwysig sydd wedi’i gynllunio i hybu a chefnogi cyfranogiad menywod mewn gwleidyddiaeth a thynnu sylw tuag at y rhwystrau presennol yn ein system seneddol.   

“Ugain mlynedd ers i’r Cynulliad Cenedlaethol, fel yr oedd bryd hynny, fod y ddeddfwrfa gyntaf yn y byd â chynrychiolaeth gyfartal o ddynion a menywod, rydyn ni’n gwybod bod llawer o waith i’w wneud o hyd i sicrhau Cymru gwbl gyfartal a chynhwysol.    

“Yn rhyngwladol, mae cawcysau menywod wedi cyfrannu at ddeddfwriaeth sy'n hyrwyddo hawliau menywod ac wedi creu gofodau newydd i leisiau menywod gael eu clywed mewn dadleuon gwleidyddol.    

“Rydym felly’n awyddus i ddysgu oddi wrth gawcysau eraill ledled y byd ac mae’n bleser mawr i mi groesawu’r Seneddwr Fiona O’Loughlin, Cadeirydd Cawcws Menywod Iwerddon yn yr Oireachtas, i rannu ei phrofiadau a’i harbenigedd gyda’r Senedd heddiw.”   

Y Llywydd, Elin Jones MS, gyda y Seneddwr Fiona O’Loughlin, Cadeirydd Cawcws Menywod Iwerddon yn yr Oireachtas.

 

Joyce Watson AS, yw Cadeirydd Cawcws Menywod y Senedd:   

“Rwy’n falch iawn o fod yn gadeirio Cawcws Menywod y Senedd. Mae’r cawcws yn gyfle i ddod â seneddwyr benywaidd at ei gilydd ar draws y pleidiau i ddarparu cymorth i gymheiriaid a hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol.    

“Waeth beth fo’u rhywedd, dosbarth cymdeithasol, ethnigrwydd neu anabledd, dylai pawb yng Nghymru deimlo’u bod yn cael eu grymuso i ymgysylltu â gwleidyddiaeth ar bob lefel, a bydd Cawcws Menywod y Senedd yn gweithio’n galed dros y blynyddoedd nesaf i wireddu hyn.”    

Dywedodd y Seneddwr Fiona O’Loughlin, Cadeirydd Cawcws Menywod Iwerddon yn yr Oireachtas:  

“Mae’n bleser gennyf siarad yn lansiad Cawcws Menywod y Senedd. Mae’r sefydliad hon yn senedd genedlaethol fodern, gynhwysol ac arloesol a bydd y Cawcws yn darparu ffordd ychwanegol ar gyfer hyrwyddo cydraddoldeb o fewn strwythurau gwleidyddol.  

“Mae’n fraint gallu trafod cyd-destun rhyngwladol a siarad am y profiad Gwyddelig a phŵer a photensial cawcysau menywod seneddol”.  

Darganfyddwch mwy am Gawcws Menywod y Senedd yma.