#NabodEichAC – Cynulliad Cenedlaethol ar ei daith haf

Cyhoeddwyd 18/07/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/07/2016

​Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn cychwyn ar ei daith flynyddol o gwmpas digwyddiadau'r haf yng Nghymru.

Y gyrchfan gyntaf fydd Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd rhwng 18 a 21 Gorffennaf, lle bydd tîm allgymorth y Cynulliad yn parhau â'i ymgyrch #NabodEichAC i helpu pobl i ddarganfod pwy sy'n eu cynrychioli yn y Senedd yng Nghaerdydd a sut y gallant gymryd rhan yng ngwaith y Cynulliad.

Byddy Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal derbyniad i gyflwyno Aelodau i randdeiliaid ac i drafod blaenoriaethau i'w hystyried yn ystod y Pumed Cynulliad.

Nesaf fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni rhwng 1 a 5 Awst, ac unwaith eto, bydd y Cynulliad yn cynnal rhaglen lawn o weithgareddau ym Mhabell y Cymdeithasau fydd yn tynnu sylw at ei safle pwysig wrth wraidd bywyd cyhoeddus Cymru.

Ymhlith y digwyddiadau fydd trafodaeth ynghylch yr hyn y gallai Brexit ei olygu i Gymru, yn ogystal â sgwrs onest rhwng y Llywydd, Elin Jones a'r newyddiadurwr Catrin Hâf Jones. Gwahoddir cwestiynau gan y gynulleidfa a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #HoliLlywydd ar Twitter, neu drwy bostio ar dudalen Facebook y Cynulliad.

Bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, dan arweiniad Cadeirydd y Pwyllgor Bethan Jenkins AC, hefyd yn cynnal trafodaeth panel i drafod syniadau ar gyfer materion y dylai fod yn eu hystyried.

Yn olaf, bydd penwythnos hwyl i'r teulu yn y Senedd ym Mae Caerdydd, i gyd-fynd â Gŵyl yr Harbwr rhwng 27 a 29 Awst. Bydd yn cynnwys chwarae meddal, paentio wynebau, perfformiadau cerddorol, teithiau o gwmpas adeilad eiconig y Senedd a phice ar y maen am ddim.

Digwyddiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru Haf 2016

18 i 21 Gorffennaf – Sioe Frenhinol Cymru

1 i 5 Awst – Eisteddfod Genedlaethol, Y Fenni

27 i 29 Awst – Penwythnos Agored yn y Senedd, Bae Caerdydd