Rheoli meddyginiaethau - datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cyhoeddwyd 15/12/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/12/2016

​Mae Nick Ramsay AC, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol, wedi rhyddhau'r datganiad a ganlyn mewn ymateb i adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn ymwneud â threfniadau rheoli meddyginiaethau.

Dywedodd Mr Ramsay:

"Derbyn presgripsiwn yw un o'r cysylltiadau mwyaf cyffredin y mae cleifion yn ei gael â'r GIG. Mae'n hanfodol bod gan gyrff y GIG drefniadau rheoli meddyginiaethau da ar waith i sicrhau diogelwch cleifion, effeithlonrwydd y gwasanaeth a rheolaeth ar gostau.

"Mae'n galonogol nodi bod y GIG yng Nghymru yn cymryd camau cadarnhaol i wella dulliau rheoli meddyginiaethau. Fodd bynnag, mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn dangos bod llawer o waith i'w wneud o hyd i sicrhau defnydd diogel a chost effeithiol o feddyginiaethau yng Nghymru.

"Yn benodol, mae angen gwella’r dull o gyfnewid gwybodaeth rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, deall faint o dderbyniadau i ysbytai sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau, a gweithredu ar y cyd i leihau lefel y cyffuriau sy’n cael eu gwastraffu.

"Disgwyliaf i gyrff y GIG a Llywodraeth Cymru gydweithio i ddeall ac i fynd i'r afael â’r materion a nodwyd yn adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a sicrhau bod y trefniadau angenrheidiol ar waith i gefnogi’r defnydd gorau o feddyginiaethau yn GIG Cymru."

"Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn y flwyddyn newydd."