Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cynhyrchu traean yn llai o allyriadau ynni o gymharu â 2009.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd yng Nghynllun Rheoli Carbon y Cynulliad 2015, mae'r Cynulliad wedi lleihau allyriadau ynni 35 y cant ers blwyddyn sylfaen 2008/09.
Yn ystod yr un cyfnod, mae'r Cynulliad wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad o 29 y cant o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr net.
Mae'r Ymddiriedolaeth Garbon wedi cydnabod bod hyn yn safon ardderchog o berfformiad yn y sector cyhoeddus yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i gyrraedd targedau heriol newydd mewn 'Map Llwybr Lleihau Carbon', gan gynnwys gostyngiad pellach o 30 y cant erbyn 2021.
"Mae'r Cynulliad wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol wrth leihau ei allyriadau ynni," meddai'r Llywydd, y Fonesig Rosemary Butler AC.
"Mae'r Cynulliad wedi llwyddo i wneud hyn drwy gydweithio â'r Ymddiriedolaeth Garbon ac arbenigwyr eraill, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'r staff sy'n gweithio yn nhimau Cynaliadwyedd a Rheoli Cyfleusterau'r Cynulliad ac i bawb sy'n gweithio yma am eu hymdrechion i sicrhau'r canlyniadau arbennig hyn.
"Ond nid ydym yn bwriadu eistedd yn ôl a llaesu dwylo - mae Comisiwn y Cynulliad wedi ymrwymo i leihau allyriadau ymhellach, fel y gwelir o'n targedau heriol newydd."
Cymeradwywyd y Map Llwybr Lleihau Carbon gan Gomisiwn y Cynulliad ym mis Mehefin y llynedd.
Ynddo, mae'r Comisiwn yn ymrwymo i barhau i wella perfformiad amgylcheddol yr ystâd, gan bennu targedau newydd ar gyfer gwastraff, dŵr a theithiau busnes.
Yn ôl Peter Black AC, y Comisiynydd sydd â chyfrifoldeb am yr ystâd a chynaliadwyedd: "Wrth inni edrych tuag at 2021, mae gennym gyfle i ddatblygu ar ein llwyddiant, gweithio hyd yn oed yn galetach i sicrhau bod ein hadeiladau mor effeithlon â phosibl a sefydlu diwylliant gweithio sy'n wirioneddol gynaliadwy.
"Fodd bynnag, ni fydd hyn yn hawdd a bydd angen i'r rhai sy'n defnyddio ein hystâd dderbyn hyd yn oed mwy o newidiadau.
"Er hynny, ni fyddwn yn colli golwg ar y brif flaenoriaeth o sicrhau ein bod yn cael amgylchedd gwaith cyfforddus i bawb sy'n gweithio yma ac sy'n cefnogi busnes y Cynulliad a'i Aelodau."