Ymchwil ac arloesi yng Nghymru mewn perygl heb ddigon o gymorth i allu cystadlu am gyllid

Cyhoeddwyd 11/04/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 11/04/2019

Mae Prifysgolion Cymru mewn perygl o lusgo ar ôl eu cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban, oni bai eu bod yn gallu cystadlu'n deg am gyllid ymchwil y DU, yn ôl Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae adroddiad y Pwyllgor ar Ymchwil ac Arloesi yng Nghymru yn dod i'r casgliad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ariannu argymhellion ei hastudiaeth ei hun, a gynhaliwyd gan yr Athro Graeme Reid ym mis Mehefin 2018.

Yn ei adroddiad, mae'r Athro Reid yn dod i gasgliad fod angen £85 miliwn y flwyddyn er mwyn i Brifysgolion allu cystadlu'n effeithiol am gyllid gan gronfa Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI).

Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhellion Adroddiad Reid, ond hyd yma dim ond £6.6 miliwn yn ychwanegol y mae wedi'i ddarparu. O ganlyniad, mae Prifysgolion yn colli cyfle i fanteisio ar gyfran o £4.5 biliwn sydd ar gael o gronfa UKRI.

Fel yr eglura'r Athro Reid yn ei adroddiad ar yr Adolygiad o Ymchwil ac Arloesi a Ariennir gan y Llywodraeth yng Nghymru, mae'r sector wedi dibynnu'n anghymesur ar gronfeydd strwythurol yr UE yn hytrach nag ar gyllid ymchwil allanol cystadleuol. Gyda'r dyddiad ar gyfer ymadael â'r UE yn prysur agosáu, mae angen cronfeydd newydd i ddisodli cronfeydd yr UE rhag i'r sector grebachu.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor, Russell George AC, yn canmol safon gwaith prifysgolion Cymru ym maes ymchwil ac arloesedd, ond pwysleisiodd fod potensial am lawer mwy o waith os gellir hawlio cyllid o ffynonellau eraill:

"Mae'n amlwg bod ansawdd yr ymchwil sy'n cael ei chynhyrchu ym mhrifysgolion Cymru heb ei ail; ond does dim digon ohono. Bydd adeiladu ar y llwyddiannau hyn yn gofyn am fwy o fuddsoddiad.

"Mae'r gwaith a wnaed gan yr Athro Reid, yn edrych ar y ffordd orau o sicrhau buddsoddiad mewn ymchwil ac arloesedd, wedi ennyn cefnogaeth eang. Er gwaethaf hynny, nid yw Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i'r arian i roi'r syniadau ar waith.

"Mae'r oedi hwn yn golygu y gallai Cymru fod ar ei cholled ac yn methu ennill ei chyfran deg."

Cydnabu'r Pwyllgor hefyd fod llawer o arloesi yn digwydd ymhell y tu hwnt i brifysgolion a cholegau, a diolchodd i arweinwyr busnes a pherchnogion busnesau newydd am eu cyfraniad i'r ymchwiliad.

 

 

 

Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, daeth i'r amlwg bod angen gwneud mwy i ddosbarthu cyllid ac adnoddau y tu hwnt i'r sector addysg yn well. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth am gydweithio llwyddiannus rhwng Prifysgolion a busnesau bach, ac enghreifftiau o rwystrau a all atal busnesau newydd a busnesau sefydledig llai o faint rhag cael gafael ar adnoddau mewn cydweithrediad â phrifysgolion.

Gemma Hallett yw sylfaenydd MiFuture, proffil gyrfa digidol ar-lein sy'n darparu cyfleoedd i bobl ifanc sy'n barod i ddewis gyrfa.  Wrth drafod ariannu ar gyfer arloesi, meddai:

"Mae angen i'r wybodaeth am arian a'r gefnogaeth sydd ar gael gan brifysgolion fod yn fwy clir. Ac os oes cyfleoedd i gyd-weithio, mae angen dathlu hynny a hwyluso'r broses."

Daw adroddiad y Pwyllgor i'r casgliad fod angen rhoi mwy o bwyslais ar gydweithio, a bod colli'r ffrwd arian bwrpasol ar gyfer hyn wedi cyfyngu gallu prifysgolion yng Nghymru i adeiladu perthynas â busnesau. Mae'r Pwyllgor yn llwyr gefnogi nod  Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) i adfer y cyllid hwn, a dylai Llywodraeth Cymru ddarparu'r cyllid angenrheidiol i gyflawni hyn yn llawn, fel mater o frys.

Wrth edrych ymlaen at gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio addysg ôl-orfodol yng Nghymru, dywedodd Russell George AC fod angen gweledigaeth glir ar y Llywodraeth i lywio ei diwygiadau. Meddai: 

"Er gwaethaf honiadau Llywodraeth Cymru bod ganddi weledigaeth ar gyfer ymchwil ac arloesedd, mae'n amlwg nad yw'r rhai yn y sector addysg ôl-orfodol yn ymwybodol ohoni. Mae angen gweledigaeth ar gyfer ymchwil ac arloesedd yng Nghymru sy'n cwmpasu pawb, a chydnabyddiaeth y bydd angen buddsoddiad i greu mwy o arloesedd o ymchwil flaengar sy'n cael ei chynnal yng Nghymru."

Gwnaeth y Pwyllgor 10 o argymhellion, gan gynnwys:

  • Er mwyn cynyddu ei ddylanwad ar benderfyniadau buddsoddi a wneir yn Llundain, mae angen i ymchwil ac arloesedd yng Nghymru gael mwy o le mewn trafodaethau ar lefel y DU a bod yn fwy gweladwy.
  • O ystyried pwysigrwydd sylfaenol ymchwil ac arloesedd i ffyniant Cymru, dylai Llywodraeth Cymru ddarparu'r cyllid i alluogi CCAUC i gyflawni ei nod o weithredu gweddill argymhellion Adolygiad Reid, gan gynnwys creu Cronfeydd Dyfodol Cymru a Dewi Sant, yn llawn, fel mater o frys. Mae disgwyl i gyllid ychwanegol ddod ar gael o ganlyniad i ddiwygiadau i gyllid myfyrwyr yn golygu y gallai fod perygl y byddai Prifysgolion Cymru ar ei hôl hi o gymharu â'u cystadleuwyr.

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda rhanddeiliaid - gan gynnwys Addysg Bellach - i gytuno ar weledigaeth a'i chyfleu ar gyfer pob gweithgaredd ymchwil ac arloesedd yng Nghymru. Dylai'r weledigaeth hon ar gyfer Cymru gyfan adeiladu ar y weledigaeth a ddatblygwyd gan CCAUC, gan gydnabod a chynnwys gweithgarwch busnes sy'n digwydd y tu hwnt i brifysgolion.

 


 

Darllen yr adroddiad llawn:

Adroddiad gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Ymchwil ac Arloesedd yng Nghymru (PDF, 696 KB)