Cyhoeddodd y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad* ei adroddiad ar 12 Rhagfyr 2017.
- Adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad (PDF, 6.81 MB)
- Adroddiad Cryno (PDF, 2.58 MB)
- Datganiad llawn gan y Llywydd Elin Jones AC
- Erthygl newyddion
Cefndir
Ym mis Tachwedd 2016, cyhoeddodd y Comisiwn y byddai'n datblygu gwaith i fynd i'r afael â chapasiti'r Cynulliad [ar y pryd].
Ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd y Llywydd y byddai Panel Arbenigol annibynnol ar Ddiwygio Etholiadol yn cael ei sefydlu i roi cyngor cadarn, gwleidyddol ddiduedd ar nifer yr Aelodau sydd eu hangen er mwyn cynrychioli pobl Cymru yn effeithiol, y system etholiadol fwyaf addas, a'r oedran pleidleisio isaf.
Aelodaeth o'r Panel
Yr Athro Laura McAllister oedd Cadeirydd y Panel. Aelodau eraill y Panel oedd yr Athro Rosie Campbell, yr Athro Sarah Childs, Rob Clements, yr Athro David Farrell, Dr Alan Renwick a Syr Paul Silk.
(O’r chwith i’r dde yn y ddelwedd: Rob Clements, yr Athro Sarah Childs, yr Athro Laura McAllister, Syr Evan Paul Silk KCB, Dr Alan Renwick, yr Athro David Farrell)
Roedd gan y Panel arbenigedd helaeth ym meysydd systemau etholiadol, gwaith a chapasiti seneddol, sefyllfa gyfansoddiadol y Cynulliad Cenedlaethol, a materion ehangach o ran llywodraethu, gan gynnwys cydraddoldeb, amrywiaeth ac ymgysylltu.
*Ers i'r panel gyflwyno adroddiad, mae enw'r Cynulliad wedi newid i'r Senedd ond mae hen gyfeiriadau wedi'u cadw ar y dudalen hon.
Cyfarfodydd y Panel Arbenigol
Tystiolaeth ysgrifenedig a gafwyd
Gofynnodd y Panel Arbenigol am dystiolaeth ysgrifenedig ar:
- faterion sy'n ymwneud ag ardaloedd etholiadol, yn enwedig o ran cyd-ffinio ag etholaethau San Steffan;
- yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau'r Cynulliad;
- capasiti a maint y Cynulliad, a'r system etholiadol briodol ar gyfer ethol Aelodau.
Trafododd y Panel yr ymatebion a ganlyn:
- EP01 - Daniel Greenberg
- EP01 (a) - Daniel Greenberg
- EP02 - Dr John Cox
- EP02 (a) - Dr John Cox
- EP03 - Yr Arglwydd Lisvane
- EP04 - Institiute for Government
- EP05 - Yr Athro John Coakley, Prifysgol y Frenhines
- EP06 - Ralph Day
- EP07 - Dr Michael Cole, Prifysgol Lerpwl
- EP08 - Alistar Doherty
- EP09 - Matthew Flinders, Leanne-Marie McCarthy-Cotter ac Alexandra Meakin
- EP10 - Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol
- EP10 (a) - Y Gymdeithas Diwygio Etholiadol
- EP11 - Thomas Ehrhard
- EP12 - Yr Athro Jean-Benoit Pilet
- EP13 - Y Comisiwn Etholiadol
- EP13 (a) - Y Comisiwn Etholiadol
- EP14 - Yr Athro Paul Chaney
- EP15 - Lisa Hart
- EP16 - Yr Athro John Bradbury
- EP17 - Kirsty Hemsley
- EP18 - Archwilydd Cyffredinol Cymru
- EP19 - Patrick Herring
- EP20 - Make Votes Matter
- EP21 - Tim Knight
- EP21 (a) -Tim Knight
- EP22 - Cyngor Cymuned Llanllechid
- EP23 - Fflur Elin, UCM Cymru
- EP24 - Lynne Hill, Plant yng Nghymru
- EP25 - Dr Elin Royles, Prifysgol Aberystwyth
- EP26 - Catrin James, Urdd Gobaith Cymru
- EP27 - Chris Rogers
- EP28 - Craig Johnson
- EP29 - Jami Abramson, Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
- EP30 - Girlguiding Cymru
- EP31 - Chris Travis
- EP31 (a) - Chris Travis
- EP32 - Paul Hossack, Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- EP33 - Peter Price, Cwnsler y Strategaeth Ewropeaidd
Adroddiad
Cyflwynodd y Panel Arbenigol adroddiad ym mis Rhagfyr 2017 a bwriwyd ymlaen â nifer o'i argymhellion fel rhan o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 cyn etholiad y Senedd yn 2021.
- Darllenwch y datganiad ysgrifenedig llawn
- Darllenwch y datganiad llawn i'r wasg
- Darllenwch adroddiad Comisiwn y Pedwerydd Cynulliad: Dyfodol y Cynulliad: sicrhau capasiti i gyflawni ar gyfer Cymru (PDF, 2.83MB)