Etholiadau’r Senedd

Cyhoeddwyd 01/02/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/12/2024   |   Amser darllen munudau

Mae pleidleisio yn etholiad y Senedd yn gyfle i ti ddweud dy ddweud am bwy rwyt ti eisiau i dy gynrychioli di a dy gymuned yn y Senedd. Mae dy bleidlais yn rhoi’r pŵer i ti ddewis pwy sy'n dy gynrychioli ar lwyfan mwy, a phwy fydd yn defnyddio’r pwerau sydd gan y Senedd i lunio bywyd yng Nghymru.

Mae gan bawb yng Nghymru ddwy bleidlais yn etholiad y Senedd:

  • Pleidlais etholaethol
  • Pleidlais ranbarthol

Dysgwch fwy am sut mae'r Senedd yn gweithio

 

Pleidlais etholaethol

Mae'r bleidlais gyntaf ar gyfer dewis person i gynrychioli dy ardal leol, sy’n cael ei galw yn etholaeth.

Mae 40 etholaeth yng Nghymru, pob un yn anfon un unigolyn i'r Senedd.

Mae Aelodau Etholaethol yn cael eu dewis gan ddefnyddio'r system cyntaf i'r felin. Mae hyn yn golygu mai'r person sy'n cael mwyafrif y pleidleisiau sy’n cael ei ethol, a bydd yn dy gynrychioli di a dy etholaeth yn y Senedd.

I weld ym mha etholaeth rwyt ti’n byw, a phwy sy'n dy gynrychioli di trwy ddefnyddio'r chwiliwr cod post ar ein gwefan.

Dewch o hyd i’ch etholaeth

 

Pleidlais ranbarthol

Mae’r ail bleidlais ar gyfer plaid wleidyddol neu unigolyn annibynnol i gynrychioli dy ranbarth.

Mae pum rhanbarth yng Nghymru, pob un yn anfon pedwar unigolyn i’r Senedd.

Mae Aelodau Rhanbarthol yn cael eu dewis gan ddefnyddio'r System Aelodau Ychwanegol.

Mae’r System Aelod Ychwanegol yn helpu i ddewis Aelodau’r Senedd yn derfynol, a rhoi gwell adlewyrchiad o’r gefnogaeth i bob plaid ar draws y wlad.

Dyma sut mae'r system ranbarthol yn gweithio:

  • mae gan bob plaid neu grŵp restr o bobl sy'n barod i gynrychioli pob rhanbarth yng Nghymru;
  • Rwyt ti’n pleidleisio dros y blaid rwyt ti eisiau i gynrychioli dy ranbarth;
  • Bydd cyfanswm pob plaid yn cael ei rannu â 1 + nifer yr Aelodau o’r Senedd sydd ganddi eisoes yn y rhanbarth hwnnw sydd wedi ennill seddi etholaethol.
  • Y blaid sydd â'r cyfanswm uchaf ar ôl y cyfrifiad hwn sy’n ennill y sedd nesaf a’r unigolyn ar frig ei rhestr sy’n cael ei ethol;
  • Caiff hyn ei ailadrodd nes bod penderfyniad wedi'i wneud ynghylch pob un o'r pedair sedd ranbarthol.

I weld ym mha ranbarth rwyt ti’n byw, a phwy sy'n dy gynrychioli di trwy ddefnyddio'r chwiliwr cod post ar ein gwefan.

Dewch o hyd i’ch rhanbarth

 

Dwy bleidlais, Pum Aelod

Mae'r system bleidleisio hon yn golygu bod pum Aelod yn dy gynrychioli di yn y Senedd. Un ar gyfer dy etholaeth a phedwar ar gyfer y rhanbarth o Gymru ble rwyt ti’n byw.

Mae cyfanswm o 60 o bobl yn cael eu hanfon i'r Senedd o bob rhan o'r wlad i gynrychioli Cymru, a'i phobl.

Mae gan bob Aelod etholaethol ac Aelod rhanbarthol yr un statws yn y Senedd. Mae hyn yn golygu bod buddiannau holl ranbarthau ac etholaethau Cymru yn cael eu cynrychioli yr un fath.

 

Mwy o wybodaeth

I gael gwybod pa etholiadau y gallwch bleidleisio ynddynt, ewch i wefan y Comisiwn Etholiadol:

https://www.electoralcommission.org.uk/i-am-a/voter/which-elections-can-i-vote