Y tu mewn i'r Senedd, yn dangos arddangosfa, gyda thestun ar fyrddau gwybodaeth a fideos ar sgriniau.

Y tu mewn i'r Senedd, yn dangos arddangosfa, gyda thestun ar fyrddau gwybodaeth a fideos ar sgriniau.

Dy Lais

Cyhoeddwyd 28/08/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 12/09/2024   |   Amser darllen munud

Dyddiadau: 11 Medi -  11 Tachwedd

Lleoliad: Oriel y Senedd

Wrth i ni nodi 25 mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, rydym yn dathlu hanesion pobl sydd wedi defnyddio eu llais i ymgyrchu dros newid.

Gwyliwch a gwrandewch wrth iddyn nhw egluro sut maen nhw wedi gweithio gyda’r Senedd mewn gwahanol ffyrdd i godi’r materion sy’n bwysig i’w cymunedau.

O’n mynyddoedd i’n dinasoedd a’n harfordir, mae lleisiau o bob cwr o Gymru wedi ffurfio stori’r Senedd, ac fe fyddan nhw’n parhau i ffurfio ei dyfodol.

Angel Ezeadum

 

Roedd Angel yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru rhwng 2018 a 2021.

Mae’n eiriolwr angerddol dros gyfiawnder cymdeithasol a chafodd ei hethol i Senedd Ieuenctid Cymru gan sefydliad partner, Race Council Cymru.

 

Rhian Mannings MBE

 

Yn ddiweddar roedd Rhian wedi dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael ei mab ifancaf George pan drawodd trasiedi ei theulu. Bu farw George yn sydyn heb arwydd o salwch yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Llantrisant, ar 22 Chwefror 2012. Ychydig o ddyddiau’n ddiweddarach, wedi trawmateiddio o golli eu mab, lladdodd ei gŵr Paul ei hun.

Yn 2019, cyflwynodd Rhian ddeiseb yn galw i gymorth gael ei roi i deuluoedd sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl.

 

Cai Phillips

 

Roedd Cai yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru rhwng 2018 a 2021, yn cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro.

Yn ei araith gyntaf yn Siambr y Senedd, siaradodd Cai am ffermio a chyfleoedd gwledig. Canolbwyntiodd ar effaith Brexit ar y diwydiant, yn ogystal â’r problemau band eang sydd i’w gweld yng nghefn gwlad Cymru.

 

Claire O'Shea

 

Mae Claire yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd ac wedi neilltuo bron i 20 mlynedd i’r sector elusennol. Yn 2022, cafodd Claire ddiagnosis o Leiomyosarcoma, math prin a ffyrnig o ganser.

Cynhaliodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ymchwiliad yn 2022-2023 yn edrych ar brofiadau menywod o symptomau canser gynaecolegol, a sut y mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn gwrando arnynt ac yn eu trin. 

Gwnaeth diagnosis Claire ei chymell i ymgysylltu â'r Pwyllgor. Rhannodd ei phrofiad personol drwy ymateb ysgrifenedig, cyfweliad fideo a thystiolaeth lafar a roddwyd mewn cyfarfod Pwyllgor yn y Senedd.

 

Neil Evans

 

Yn hanu o Sir Gaerfyrddin, ysgogodd angerdd cynnar Neil dros bysgota ei werthfawrogiad o gefn gwlad a’i ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol.

Yn 2007, cyflwynodd Neil ddeiseb yn galw i fagiau plastig gael eu gwahardd oherwydd effeithiau amgylcheddol eu gweithgynhyrchu a’u gwaredu.

Ar 1 Hydref 2011, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno gofyniad i godi tâl am y rhan fwyaf o fagiau siopa untro o dan y Rheoliadau Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (Cymru).

 

Sarra Ibrahim

 

Yn 2022, roedd Sarra yn weithiwr prosiect i Women Connect First, elusen i rymuso menywod du ac ethnig leiafrifol yng Nghaerdydd a De-ddwyrain Cymru.

Yn 2022, cynhaliodd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ymchwiliad byr: Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol: menywod mudol.

Cynhaliodd y Pwyllgor nifer o grwpiau ffocws ar draws Cymru. Cymerodd Sarra ran mewn grŵp ffocws yng Nghanolfan Datblygu Cymunedol De Glan yr Afon.

 

Lisa Turnbull

 

Yn 2008, dechreuodd y Coleg Nyrsio Brenhinol ymgyrch i sicrhau bod lefelau digonol o staff nyrsio yn y GIG yng Nghymru er mwyn darparu gofal nyrsio diogel ac effeithiol o safon i gleifion ar bob adeg. Roedd Lisa yn gweithio fel Cynghorydd Polisi a Materion Cyhoeddus ar y pryd.

Cysylltodd y Coleg Nyrsio Brenhinol â'r Aelod Cynulliad Kirsty Williams i gydweithio er mwyn cynnig Bil (cyfraith newydd). Cyflwynwyd y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) fel Bil Aelod gan Kirsty Williams AC yn 2014.

Yn 2016, pasiodd Cymru y Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru). Cymru oedd y wlad gyntaf yn Ewrop i gydnabod, mewn deddfwriaeth, y cysylltiad rhwng niferoedd staff nyrsio a’u cymysgedd sgiliau a chanlyniadau i gleifion.