Black and Welsh

Cyhoeddwyd 20/09/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 03/11/2022   |   Amser darllen munudau

Cyfarwyddwyd gan Liana Stewart

Cynhyrchwyd gan Catryn Ramasut, ie ie Productions

Dyddiadau: 8 Hydref - 29 Hydref

Lleoliad: Neuadd y Senedd

Llun: ie ie Productions.

 

Pan oedd y gwneuthurwr ffilmiau Liana Stewart yn tyfu i fyny yn Butetown, Caerdydd, ychydig iawn o fodelau rôl duon a Chymraeg oedd ar y teledu. Mae hi wedi bod eisiau gwneud ffilm ers tro byd sy'n dod â phobl o bob cwr o Gymru at ei gilydd i rannu eu profiadau nhw o beth mae'n ei olygu i fod yn ddu ac yn Gymraeg. Mae hi bellach wedi llwyddo i wneud yr union beth hwnnw.

Yn gweu casgliad o straeon gafaelgar at ei gilydd, mae Liana'n cwrdd â phobl o Gasnewydd yn y de i Eryri yn y gogledd. Yn cynnwys digrifwyr, ffigurau busnes blaenllaw ac arwyr cymunedol, mae Black and Welsh (2020) yn rhoi cipolwg pwysig ar fywyd yng Nghymru ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Nid yw'r sgwrs byth yn ceisio osgoi sôn am y sefyllfaoedd anghyfforddus ac anodd y mae pobl wedi’u hwynebu, ond ceir cyfle hefyd i ddathlu'r hiwmor, y balchder a'r pethau bach unigryw Cymreig sy'n gyfarwydd i bob Cymro, waeth beth fo'u cefndir, yn y cipolwg hwn ar genedl amlddiwylliannol.

Bydd Black and Welsh yn cael ei ddangos yn y Senedd drwy gydol mis Hydref i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon 2022.

 

Sgwrs gyda Liana Stewart

Llun: ie ie Productions.

 

Dyddiad ac amser: Dydd Iau, 27 Hydref, 18:00

Lleoliad: Y Pierhead

£ Am ddim

Ynglŷn â’r digwyddiad hwn

Ymunwch â ni ar gyfer dangosiad arbennig o Black and Welsh gyda’r cyfarwyddwr Liana Stewart a’r cynhyrchydd Catryn Ramasut. Byddwn yn trafod bywyd a gwaith Liana, a’i rheswm dros wneud ffilmiau, flwyddyn ers iddi ennill gwobr Bafta Cymru yn y categori Cyfarwyddwr: Ffeithiol.

Archebwch eich tocynnau am ddim