Arddangosfa gan y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth
Noddir gan Elin Jones AS
Dyddiadau: 7 Tachwedd 2025 - 22 Ionawr 2026
Lleoliad: Oriel y Senedd
Eleni rydym yn dathlu 80 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd. Ledled y wlad, rydym yn cofio ymladdwyr a chymunedau.
Un o agweddau llai adnabyddus y rhyfel yw dadleoli – cafodd dros 60 miliwn o bobl eu dadleoli yn Ewrop yn unig, gan gynnwys llawer i Gymru.
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys gwaith celf, arteffactau a hanes mudo’r rhai a gafodd eu dadleoli i Gymru yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif: ffoaduriaid, carcharorion rhyfel, a faciwîs o fannau eraill ym Mhrydain.
Mae hefyd yn cynnwys darnau gan y rhai sydd wedi cyrraedd Cymru yn fwy diweddar yn sgil gwrthdaro a rhyfel, gan gynnwys o Wcráin a Syria.