Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y Gorffennol i Lywio'r Dyfodol

Cyhoeddwyd 15/12/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/10/2023   |   Amser darllen munudau

Y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl, Prifysgol Aberystwyth
Dyddiadau: 18 Chwefror – 18 Ebrill 2023
Lleoliad:
Oriel y Senedd ac Oriel y Dyfodol y Pierhead

Evelyn a Marion Porak, dwy ferch sy’n ffoaduriaid, ar Bromenâd Aberystwyth, 1939. © Brian Pinsent.

 

Mae’r arddangosfa hon yn olrhain hanes ffoaduriaid yng Nghymru o’r 1930au hyd heddiw. Mae’n adrodd straeon y rhai a fu’n ffoi rhag y Sosialaeth Genedlaethol yng Nghanolbarth Ewrop er mwyn dod o hyd i loches, gan gymharu eu profiadau gyda ffoaduriaid y dydd modern.

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwaith celf, eitemau, ffotograffau a llenyddiaeth a grëwyd gan ffoaduriaid a’r rhai a weithiodd ochr yn ochr â nhw. Mae ffilm ynglŷn â’r arddangosfa a grëwyd gan y gwneuthurwr ffilmiau Amy Daniel yn cael ei harddangos hefyd, sy'n archwilio bywydau ffoaduriaid ddoe a heddiw.

Curadwyd yr arddangosfa ar y cyd gan ffoaduriaid sy’n byw yng Nghanolbarth Cymru, o Syria yn bennaf. Mae'r Ganolfan Astudio Symudedd Pobl eisiau tynnu sylw at brofiadau ffoaduriaid, codi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n eu hwynebu yng Nghymru, a gofyn cwestiynau am amrywiaeth y gymdeithas yng Nghymru, gwahaniaethau crefyddol ac ieithyddol, yn ogystal â heriau cymdeithasol, addysgol ac economaidd.

Crëwyd yr arddangosfa, a ddangoswyd am y tro cyntaf yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, fel rhan o Raglen Bartneriaeth Ail Ryfel Byd a’r Holocost yr Amgueddfa Ryfel Ymerodrol, ac fe'i hariannwyd gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae’r prosiect ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei arwain gan Dr Andrea Hammel, Cyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl.

Ffoadur Almaeneg-Iddewig Kate Bosse-Griffiths gyda'i gŵr J. Gwyn Griffiths, 1939. © Heini Gruffudd.

 

Cerdyn adnabod Renate Collins, a wnaeth ffoi i Dde Cymru o Prague ar y Kindertransport yn 1939. © Amy Daniel.