Croeso i wefan newydd y Senedd. Os ydych yn cael anhawster defnyddio'r wefan hon, cysylltwch a ni.
Egni Cymwynas
Cyhoeddwyd 23/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/02/2021   |   Amser darllen munudau
Ysgrifennwyd y gerdd hon gan fardd cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i gyd-fynd â'r oriel bortreadau ar-lein yn arddangos hyrwyddwyr cymunedol o bob rhan o Gymru.
Egni Cymwynas
Mae stadiwm ein gwlad yn dywyll
ond yn bair o bosibliadau…
(er nad oes band am chwarae)
Ymhlith y rhesi gwag, mae adlais torf
yn chwyddo’n gytgan;
a gwreichion hen haelioni
yn ffaglu’n fil o fflamau mân.
Peth felly yw egni cymwynas -
y trydan cudd, ymhob cwr o’n gwlad,
sy’n nôl ffisig,
neu’n gwneud neges;
sy’n rhannu sgwrs
fel rhosyn annisgwyl;
sy’n gylch,
pan freichiwn ein gilydd
o bell…
Ac wrth i ni anturio
drwy diroedd newydd ein hen gynefin,
yr ail-fapio yw ein her;
ond er chwithdod
cofleidiau rhithiol,
a diflastod
pob clo dros dro,
mae gwefr mewn cymwynas o hyd:
- fel cyffwrdd yr haul â blaen bys! -
a llewyrchwn fel gwlad yn ei sgîl...
Ifor ap Glyn
Bardd Cenedlaethol Cymru
Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, wedi’i chomisiynu gan Llenyddiaeth Cymru a Chomisiwn y Senedd.
Mae menter Bardd Cenedlaethol Cymru yng ngofal Llenyddiaeth Cymru.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb hefyd

Arddangosfeydd yn y Senedd
Mae’r arddangosfeydd yn y Senedd yn gyfle i weld yr enghreifftiau gorau o’r hyn y gall Cymru ei gynnig. Maent yn amrywio o bartneriaethau â’n prif sefydliadau cenedlaethol i brosiectau a gaiff eu datblygu ar y cyd â chymunedau Cymru.

Ymgysylltu â'r Senedd ar-lein
Dysgwch am yr hyn sy'n digwydd yn eich Senedd a sut i ymgysylltu â hi ar-lein.

Hywrwyddwyr Cymunedol
Eleni, mae llawer o bobl gyffredin wedi bod yn gwneud pethau hynod anghyffredin i sicrhau lles a diogelwch ein cymunedau. Mae ein oriel bortreadau ar-lein yn arddangos hyrwyddwyr cymunedol o bob rhan o Gymru.