Hannah Blythyn Louise Rudd

Louise Rudd

Enwebwyd gan Hannah Blythyn AS, Aelod o'r Senedd dros Delyn.

Agorodd Louise “siop dros dro” yn Ffynnongroyw fel y gallai pobl ddod â dillad i’r rhai sy’n dianc rhag trais domestig. Drwy ofyn i gydweithwyr a’r gymuned am roddion, mae Louise wedi casglu digon o ddillad i bara blwyddyn.

Hannah Blythyn Alison Round

Alison Round

Enwebwyd gan Hannah Blythyn AS, Aelod o’r Senedd dros Delyn.

Defnyddiodd Alison a'i ffrindiau yn y Fflint eu sgiliau gwnïo i droi deunyddiau gwahanol yn fagiau sgrybs, sgrybs, hetiau a mygydau, gan roi’r eitemau hyn i staff y GIG a chartrefi gofal er mwyn eu cadw’n ddiogel ac yn gysurus.

Hannah Blythyn Northop Hall

Clwb cinio Eglwys Bresbyteraidd Neuadd Llaneurgain

Enwebwyd gan Hannah Blythyn AS, Aelod o’r Senedd dros Delyn.

Jean, Angela, Jennifer, ac Ann o glwb cinio Eglwys Bresbyteraidd Neuadd Llaneurgain.

Mae'r clwb cinio wedi bod yn trefnu cinio i’r henoed yn y gymuned ers 6 blynedd. Eleni, aethon nhw gam ymhellach trwy sicrhau bod eu 30 aelod yn cael cinio Pasg a the prynhawn.

Rhun Ap Iorwerth Chippy chippy

Laura Jones a tîm Chippy Chippy

Enwebwyd gan Rhun ap Iorwerth AS, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn.

Disgrifwyd y tim fel angylion am fwydo plant mewn angen ond hefyd am greu ysbryd cymunedol.  Buont yn paratoi prydau am ddim i blant o’u poced eu hun yn wreiddiol, ond cafwyd sylw cenedlaethol i’w hymdrechion a rwan mae lot o bobl yn rhoi eu harian a’u hamser i helpu.

Rhun Ap Iorwerth Gwalchmai hotel

Stephanie Roberts a tîm y Gwalchmai Hotel

Enwebwyd gan Rhun ap Iorwerth AS, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn.

Buont yn creu pecynnau bwyd i’r henoed (o gawl poeth i de prynhawn); pecynnau Pasg a Chalan Gaeaf i’r plant; a darparu cinio am ddim i blant lleol.  Ar ben hyn, bu Steph yn brysur yn helpu hefo nol siopa, a phresgripsiynau. Doedd dim yn ormod iddynt.

Rhun Ap Iorwerth Caru Amlwch

Caru Amlwch

Enwebwyd gan Rhun ap Iorwerth AS, Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn.

Mae criw Caru Amlwch wedi mynd y tu hwnt i’r gofyn i wneud yn siwr fod pawb a gafodd eu heffeithio’n economaidd yn ystod covid neu’n methu gadael y ty oherwydd ynysu yn gallu cael bwyd, gan gynnwys sefydlu rhwydwaith o wirfoddolwyr lleol yn Amlwch a’r ardaloedd cyfagos.  

Sian Gwenllian Brooke Graham

Brooke Graham

Enwebwyd gan Siân Gwenllian AS, Aelod o’r Senedd dros Arfon.

Dyma Brooke sy’n 13 oed, mae wedi bod yn brysur yn gwneud a gwerthu cacenni caws a chacenni sbwng traddodiadol ym Maesgeirchen, Bangor.

Mae’n codi arian ar gyfer prynu hanfodion i’r GIG.

Sian Gwenllian Porthi Pawb

Porthi Pawb

Enwebwyd gan Sian Gwenllian AS, Aelod o’r Senedd dros Arfon.

Dyma criw ‘Porthi Pawb’ sydd wedi brysur eleni.

Mae’n brosiect coginio cymunedol sy'n dosbarthu prydau bwyd poeth i unigolion bregus, yr henoed a phlant yng Nghaernarfon gan ddefnyddio cyfraniadau bwyd gan fusnesau lleol.

Erbyn hyn dosbarthwyd 14,000 o brydau!

Sian Gwenllian Bwyd I Bawb Bangor

Bwyd i Bawb Bangor

Enwebwyd gan Sian Gwenllian AS, Aelod o’r Senedd dros Arfon.

Mae’r prosiect cymunedol hwn yn ailddosbarthu stoc dros ben mewn digwyddiadau agored, ac yn atal bwyd rhag cael ei daflu i safleoedd tirlenwi a chefnogi pobl mewn angen ar yr un pryd.

Janet Finch Saunders Ian Turner

Ian Turner

Enwebwyd gan Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy.

Rhedwr Marathon a Gwirfoddolwr. Mae Ian wedi bod yn rhan greiddiol o gymuned Aberconwy ers degawdau, fel gwirfoddolwr i Childline a sawl elusen ganser. Yn ddiweddar, cwblhaodd Farathon Llundain am y trydydd tro ar ddeg ar eu cyfer.

Janet Finch Saunders JJ Green

Dr John "JJ" Green

Enwebwyd gan Janet Finch-Saunders AS, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy.

‘Dr John "JJ" Green – enw sy’n gyfystyr ag egni diflino a chymeriad anghyffredin o fywiog yng nghymunedau arfordirol Aberconwy’.

Fel  meddyg teulu uchel ei barch, Llywydd yr Orsaf a Meddyg yr Orsaf i Griw Bad Achub Llandudno ers blynyddoedd a rhedwr marathon o fri - mae wedi cwblhau 73 ohonyn nhw er anrhydedd i’r RNLI - mae egni a charedigrwydd JJ yn falm i’r enaid i lawer.

Hyrwyddwyr Cymunedol