Mantell o Flodau Pabi Cricieth

Cyhoeddwyd 20/10/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/02/2024   |   Amser darllen munudau

Cricieth Creadigol a Chymuned Cricieth

Noddir gan Eluned Morgan AS

Dyddiadau: 2 – 29 Tachwedd

Lleoliad: Neuadd y Senedd

Llun: Andrew Kime

Yn 2020, cafodd llawer o ddigwyddiadau Dydd y Cofio  eu canslo oherwydd Covid-19.

Yn hytrach, daeth trigolion yng Nghricieth, Gwynedd, at ei gilydd i lunio mantell o flodau pabi a gafodd ei harddangos fel rhan o arddangosfa ar y Stryd Fawr i nodi Dydd y Cofio.

Fe wnaeth gwirfoddolwyr o'r gymuned wau a chrosio 5,000 o flodau pabi a gafodd eu hymgorffori yn y ffrog.

Mae'r fantell ei hun yn symbol o golli cymuned gyfan ac mae'n arbennig o ystyrlon i genhedlaeth o fenywod a gollodd anwyliaid yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.

Gan dynnu ar ddoniau unigolion o bob cenhedlaeth ac o bob rhan o’r gymuned, roedd y prosiect yn un o nifer a arweiniodd at lwyddiant ysgubol Cricieth Creadigol wrth ennill Gwobr Bywydau Creadigol Cymru 2021.

Yn awr, bydd Mantell o Flodau Pabi Cricieth yn cael ei harddangos yn y Senedd fis Tachwedd eleni fel rhan o’r digwyddiadau i nodi Dydd y Cofio 2022.