Nick Treharne: Portread o Gymru

Cyhoeddwyd 11/08/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 16/11/2022   |   Amser darllen munudau

Nick Treharne

Dyddiadau: 23 Medi – 9 Tachwedd

Lleoliad: Oriel y Senedd

Mae'r Senedd, mewn partneriaeth â Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn falch o gynnal yr arddangosfa hon o ddelweddau gan y ffotograffydd Nick Treharne fel rhan o brosiect i ddogfennu’r Gymru gyfoes.

Ers 2018, gweledigaeth Nick fu adeiladu portffolio cynhwysfawr o fywyd yng Nghymru. Mae llawer o'i waith yn arsylwadol wrth iddo chwilio am eiliadau cyfareddol ar y strydoedd, yng nghefn gwlad ac yn y llu o ddigwyddiadau sy'n digwydd bob blwyddyn.

O ddigwyddiadau a thraddodiadau sy'n rhan annatod o fywyd Cymru, i bortreadau o'r cymeriadau ysbrydoledig a diddorol y mae'n cwrdd â nhw ar ei deithiau, mae'r gŵr hwn sydd wrth ei fodd â’r “hanner eiliad” yn trawsnewid pynciau cyffredin bob dydd yn rhywbeth eithriadol.

Yn ddiweddar, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi cyfrannu delweddau Nick i Gasgliad y Werin, gwefan am ddim sy’n dod â threftadaeth Cymru ynghyd. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i bron i filiwn o ffotograffau sy'n gysylltiedig â Chymru. Mae'r rhain yn amrywio o weithiau gan ffotograffwyr arloesol o ddyddiau cynharaf ffotograffiaeth i bortffolios gan ffotograffwyr cyfoes.

08.04.19. Guto Roberts, Tirmon, Harbwr Caernarfon

Llun gan Nick Treharne

 

29.04.19. Orinda a Reg Morgan, cyn-bencampwyr tynnu wyneb lleol, Blaenafon

Llun gan Nick Treharne

 

15.06.17. Rhywun sydd â diddordeb brwd mewn Comic con ar ei ffordd i'r orsaf reilffordd, cornel stryd, Penarth

Llun gan Nick Treharne

30.11.18. Rownd derfynol Miss Transgender UK, Gwesty’r Angel, Caerdydd

Llun gan Nick Treharne