Plant yn dod at ei gilydd yng Ngwersyll Tonfanau drwy iaith ryngwladol pêl-droed.

Plant yn dod at ei gilydd yng Ngwersyll Tonfanau drwy iaith ryngwladol pêl-droed.

O Fudo i Wydnwch

Cyhoeddwyd 15/10/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/10/2024   |   Amser darllen munudau

Arddangosfa gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Noddir gan Elin Jones AS

Dyddiadau: 16 Tachwedd – 19 Rhagfyr 2024

Lleoliad: Oriel y Senedd

 

Mae ‘O fudo i wydnwch’ yn adrodd hanes y rhai a gafodd eu gorfodi i fudo ac i adeiladu bywyd o’r newydd ar ôl i bobl Asiaidd gael eu gyrru allan o Uganda ym 1972; ac mae’n dathlu treftadaeth grefyddol a diwylliannol fywiog cymunedau Asiaidd Cymru.

Cafodd 80,000 o bobl Asiaidd eu gyrru allan o Uganda ym 1972 gan Idi Amin.

Daeth 28,000 o bobl Asiaidd â phasbortau Prydeinig i'r DU a i aros mewn 16 o wersylloedd dros dro.

Arhosodd 1700 yng Ngwersyll Tonfannau yng Ngogledd Cymru.

Mae'r arddangosfa yn cynnwys hanesion gan bobl a gafodd eu gyrru allan o Uganda, am eu bywyd yn Nhonfanau, yr heriau cynnar a’r daith bersonol anhygoel i sicrhau gwydnwch unwaith eto drwy ailsefydlu teuluoedd, cymunedau a sefydlogrwydd economaidd, a hynny oll wrth brofi trawma gwahaniad, colled a bod yn dyst i erchyllterau dynol.

Ar yr un pryd, mae ‘O fudo i wydnwch’ yn dathlu amrywiaeth y dirwedd bensaernïol a grëwyd gan weithgareddau diwylliannol a chrefyddol Asiaidd.

 

 

Lluniau

1 - Dawnsiwr ifanc yng Nghanolfan India, Caerdydd.

2 - Mr. Singh ar yr Wyddfa ar daith gerdded noddedig Khalsa Aid.

3 - Athrawon, gwirfoddolwyr a defnyddwyr gwasanaeth yn 28 The Parade, Canolfan Addysg Gymunedol arloesol a sefydlwyd gan Ravi Mooneram. Llun drwy ganiatâd caredig Preet Mooneram.

4 - Plant yn dod at ei gilydd yng Ngwersyll Tonfanau drwy iaith ryngwladol pêl-droed. Ffotograff drwy ganiatâd caredig Delyth Lloyd Williams a gyda diolch i Lyfrgell Tywyn.

 

Mae Prosiect Treftadaeth Asiaidd Cymru yn brosiect ymgysylltu cymunedol gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac fe’i ariennir gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen Cymru Wrth-hiliol.