Oriel ar-lein o Hyrwyddwyr Cymunedol

Cyhoeddwyd 23/11/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 21/12/2020   |   Amser darllen munudau

Eleni, mae llawer o bobl gyffredin wedi bod yn gwneud pethau hynod anghyffredin i sicrhau lles a diogelwch ein cymunedau. Fel rhan o'n gwaith i gysylltu â chymunedau – ac er mwyn anrhydeddu eu gwaith caled a'u hymrwymiad – rydym ni wedi creu oriel bortreadau ar-lein yn arddangos hyrwyddwyr cymunedol o bob rhan o Gymru.

Gwahoddwyd Aelodau o’r Senedd i enwebu hyd at dri hyrwyddwr o’u hetholaethau neu eu rhanbarthau i fod yn rhan o’r oriel.

Bydd y portreadau yn cael eu cyhoeddi yn ddyddiol ar gyfrifon cyfryngau cymdeithasol Ymweld â'r Senedd (Instagram y Senedd, Facebook y Senedd, Twitter y Pierhead) ym mis Tachwedd – Rhagfyr 2020.

Mae'r oriel yn rhan o raglen digwyddiadau rhithwir GWLAD a gynhelir gan y Senedd yr hydref hwn. Mae’r enwebeion yn cynnwys unigolion, grwpiau, gweithwyr allweddol a busnesau, sydd wedi gwneud pethau anghyffredin yn ystod y cyfnod Covid-19 i helpu pobl llai breintiedig, a helpu i gadw cymunedau’n gadarn.

Ysgrifennwyd y gerdd hon gan fardd cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, i gyd-fynd â'r oriel.

Egni Cymwynas

Mae stadiwm ein gwlad yn dywyll
ond yn bair o bosibliadau…
(er nad oes band am chwarae)
 
Ymhlith y rhesi gwag, mae adlais torf
yn chwyddo’n gytgan;
a gwreichion hen haelioni
yn ffaglu’n fil o fflamau mân.
 
Peth felly yw egni cymwynas -
y trydan cudd, ymhob cwr o’n gwlad,
 
sy’n nôl ffisig,
neu’n gwneud neges;
 
sy’n rhannu sgwrs
fel rhosyn annisgwyl;
 
sy’n gylch,
pan freichiwn ein gilydd
o bell…
 
Ac wrth i ni anturio
drwy diroedd newydd ein hen gynefin,
yr ail-fapio yw ein her;
 
ond er chwithdod
cofleidiau rhithiol,
a diflastod
pob clo dros dro,
 
mae gwefr mewn cymwynas o hyd:
- fel cyffwrdd yr haul â blaen bys! -
a llewyrchwn fel gwlad yn ei sgîl...

Ifor ap Glyn

Bardd Cenedlaethol Cymru


Dyma gerdd gan Fardd Cenedlaethol Cymru, Ifor ap Glyn, wedi’i chomisiynu gan Llenyddiaeth Cymru a Chomisiwn y Senedd.

Mae menter Bardd Cenedlaethol Cymru yng ngofal Llenyddiaeth Cymru.