Arddangosfa gan Lewis Prosser
Dyddiau: 1 Awst - 29 Hydref 2026
Lleoliad: Neuadd y Senedd
Mae Lewis Prosser yn fasgedwr abswrdaidd, artist, a churadur sy'n byw yng Nghymru. Mae'n defnyddio technegau basgedwaith sy’n deillio o’n treftadaeth, ynghyd â pherfformiadau, i archwilio themâu sy’n ymwneud â hunaniaeth ranbarthol, cyfnewid diwylliannol a seremonïau cyhoeddus.
Yn yr arddangosfa Seremonïol Ddinesig, mae Prosser yn ail-ddychmygu addurndlysau dinesig traddodiadol – eitemau a ddefnyddir mewn seremonïau swyddogol i nodi cerrig milltir lleol a chenedlaethol. Mae'r darnau'n cyfuno technegau crefft traddodiadol, fel basgedwaith a gwaith metel treftadol, i greu gwrthrychau seremonïol newydd.
“Gan fabwysiadu yn aml elfennau o symbolaeth chwedlonol neu grefyddol, mae’r offerynnau dinesig hyn yn cyfleu grym ar raddfa ddynol sydd â’i wreiddiau mewn consensws cymunedol democrataidd, yn hytrach nag awdurdod o’r brig i lawr. Mae'r pŵer y maent yn ei roi yn aml yn gymedrol: lledaenu newyddion da, dathlu llwyddiannau lleol a chanmlwyddiannau, neu nodi dathliadau cenedlaethol. Ac eto, hyd yn oed yn y parth lleol, gall ychydig o bŵer sbarduno newid sylweddol o bryd i’w gilydd.” – Lewis Prosser

Fel llawer o seneddau, mae gan Senedd Cymru fyrllysg seremonïol. Bwriad gwreiddiol byrllysg seremonïol yw cynrychioli awdurdod y teyrn, ac mae’n cael ei gario i mewn i senedd fel rhan o'i seremoni agoriadol swyddogol.
Bydd y Seithfed Senedd yn cael ei hagor yn swyddogol ym mis Hydref 2026. Yn ystod y seremoni, a gynhelir yn y Siambr, bydd y byrllysg yn cael ei osod yn ei briod le i nodi dechrau ffurfiol y trafodion.
Wrth i ni agosáu at y foment hon, mae arddangosfa Prosser yn ein gwahodd i fyfyrio ynghylch ein rôl gyffredin mewn bywyd dinesig. Mae'n awgrymu nad mater i sefydliadau yn unig yw gwneud penderfyniadau, ond gwaith creu ar y cyd.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gymryd rhan yng ngwaith y Seithfed Senedd, ewch i’r crwydro eich Senedd.
Plethu ratl helyg gyda'r basgedwr Lewis Prosser

Lleoliad: Neuadd y Senedd
Dyddiad: Dydd Sadwrn 22 Awst 2026
Amser: sesiwn 1 – 11:00 to 13:00; sesiwn 2 – 14:00 to 16.00
Cyfle i blethu eich ratl helyg eich hun! Yn y gweithdy gam wrth gam hwn dan ofal y basgedwr, Lewis Prosser, byddwch chi'n gwneud eich ratl helyg eich hun ichi ei gadw.
Mae ratls ymysg y teclynnau hynaf yn y byd ar gyfer gwneud sŵn. Maen nhw wedi cael eu defnyddio mewn gorymdeithiau carnifal, perfformiadau cerddorol, defodau ysbrydol ac fel teganau plant trwy gydol hanes dynolryw. Yn y gweithdy hwn, cewch ddysgu plethu helyg lleol i wneud ratl llaw, yn barod i’w ddefnyddio yng ngorymdaith Carnifal Trebiwt y penwythnos canlynol.
- Am ddim. Rhaid archebu lle (dim mwy na 10 lle ym mhob sesiwn)
- Mae'r gweithdy'n addas i bobl 16 oed a hŷn yn unig
- Darperir yr holl ddeunyddiau
- Caiff y sesiynau eu cyflwyno drwy gyfrwng y Saesneg
Noder: Dwy sesiwn fydd yn cael eu cynnal ar y diwrnod. Dewiswch yr amser sydd orau gennych chi o’r opsiynau archebu isod. Rhaid archebu tocyn ar wahân i bob person sydd am gymryd rhan yn y sesiwn.
- Sesiwn 1: Plethu ratl helyg gyda'r basgedwr Lewis Prosser (22 Awst. Sesiwn 1 – 11:00 i 13:00)
- Sesiwn 2: Plethu ratl helyg gyda'r basgedwr Lewis Prosser (22 Awst. Sesiwn 2 – 14:00 i 16:00)
Lluniau: ©Rachel Vater