Arddangosfa gan ddisgyblion o Ysgol Gorllewin Mynwy, mewn partneriaeth â’r ffotograffwyr Jon Pountney a David Harrhy, a’r bardd Patrick Jones
Noddir gan Lynne Neagle AS
Dyddiadau: 3 Mehefin – 28 Awst 2025
Lleoliad: Oriel y Dyfodol, y Pierhead
I Sipsiwn, nid difyrrwch neu weithgaredd hamdden yw teithio, ond ffordd o fyw. Mewn gwirionedd, awgrymai cred gyffredin o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg fod Wanderlust yn enetaidd.
Nod prosiect ffotograffiaeth Wanderlust yw cipio diwylliant cyfoethog a bywiog y gymuned Sipsiwn a Theithwyr trwy lens y camera.
Mae disgyblion wedi cael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ffotograffiaeth a barddoniaeth gyda’r ffotograffydd lleol Jon Pountney, y ffotograffydd hyfforddedig David Harrhy a’r bardd Patrick Jones. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maent wedi datblygu sgiliau a hyder o flaen a thu ôl i'r camera fel ei gilydd.
Mae'r gweithdai wedi galluogi'r disgyblion i ddogfennu eu bywydau bob dydd; traddodiadau, credoau a phrofiadau'r gymuned hon sydd ar y cyrion yn aml. Mae'n arddangos eu gwytnwch, eu creadigrwydd a’u harddwch.
Trwy gyfres o bortreadau, delweddau dogfennol a cherddi, mae’r prosiect yn taflu goleuni ar naratifau amrywiol a chymhleth bywydau Sipsiwn a Theithwyr, gan herio stereoteipiau a hybu dealltwriaeth ac empathi.
Mae’r prosiect hefyd yn rhoi llwyfan i’r disgyblion rannu eu straeon, sbarduno sgyrsiau a dathlu treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y gymuned deithiol yn Nhorfaen.
Lluniau © Jon Pountney, David Harrhy, a disgyblion o Ysgol Gorllewin Mynwy