Y Bwthyn

Cyhoeddwyd 02/03/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/10/2023   |   Amser darllen munudau

Cymorth Canser Macmillan

Noddir gan Mick Antoniw AS

Dyddiadau: 25 Ebrill - 18 Gorffennaf 2023

Lleoliad: Oriel y Senedd

Mae Uned Gofal Lliniarol Arbenigol Macmillan NGS y Bwthyn yn cynnig amgylchedd cynnes, gofalgar i bobl â salwch anwelladwy a’u hanwyliaid.

Wedi’i leoli yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae’r uned wyth gwely yn cynnwys gwaith celf wedi’i gomisiynu er mwyn creu amgylchedd cysurlon sy’n cael ei oruchwylio gan guradur Jane Willis o Willis Newson.

Cynhaliodd artistiaid weithdai gyda chleifion gofal lliniarol, eu gofalwyr, staff a’r gymuned leol i greu’r gwaith a dewis eu thema – dod â’r tu allan tu mewn.

Penodwyd pedwar artist, ffotograffydd, gwneuthurwr dodrefn a bardd i greu gwydrau, sgriniau a waliau nodwedd yn ogystal â silffoedd pwrpasol. 

Mae gan bob ystafell gist finyl sy’n cynnwys 20 o ffotograffau wedi’u printio o olygfeydd Cymreig er mwyn caniatáu i’r cleifion ddewis y llun yr hoffent ei roi yn eu hystafell.

Caiff y gwaith ei arddangos i gyd-fynd ag Wythnos Byw Nawr (8 i 14 Mai 2023) ac mae’n archwilio sut cafodd y gwaith celf ei greu er mwyn meithrin amgylchedd llonyddol.

Cafodd yr uned £7.25m ei hariannu gan Gymorth Canser Macmillan a'r National Garden Scheme gyda chyllid ychwanegol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Llywodraeth Cymru. 

Gweithiodd Macmillan gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i adeiladu'r uned gyda KKE Architects.