I ddathlu'r Nadolig a lansio Llwybr Bara Sinsir Bae Caerdydd, bydd gan y Senedd fwrdd crefftau’r Nadolig ar agor drwy gydol yr ŵyl.

Ymunwch â ni i addurno eich cymeriad bara sinsir eich hun gan ddefnyddio'r deunyddiau crefft a ddarperir.
Ewch ag ef adref i addurno eich coeden Nadolig chi neu cewch ei ychwanegu at y goeden yn y Senedd.
Bydd bwrdd crefftau’r Nadolig ar agor:
Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr
Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr
Dydd Sadwrn 17 Rhagfyr
Dydd Llun 19 – Dydd Gwener 23 Rhagfyr
Dydd Mawrth 3 – Dydd Sadwrn 7 Ionawr
Oriau Agor
- Dydd Llun i ddydd Gwener: 09:00–16:30
- Dydd Sadwrn a Gwyliau Banc: 10:30–16:30
- Mynediad olaf: 16:00
Rydym ar hyn o bryd yn gwneud gwaith i ehangu'r Siambr (siambr drafod). Yn ystod y cyfnod hwn:
- Bydd oriel gyhoeddus y Siambr ar gau dros dro.
- Bydd llai o gapasiti o ran caniatáu pobl i wylio'r Cyfarfod Llawn
- Gall llwybrau teithiau newid.
- Disgwylir rhywfaint o sŵn o ganlyniad i’r gwaith adeiladu.
Sylwer: Nid yw’r lifft yn y Pierhead yn gweithio ar hyn o bryd. Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anghyfleustra o ganlyniad i hyn.
Bydd y Pierhead ar gau i'r cyhoedd dydd Mawrth, 4 Tachwedd.