Gwnewch eich Addurn Bara Sinsir Eich Hun

Cyhoeddwyd 21/11/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 23/11/2022   |   Amser darllen munudau

I ddathlu'r Nadolig a lansio Llwybr Bara Sinsir Bae Caerdydd, bydd gan y Senedd fwrdd crefftau’r Nadolig ar agor drwy gydol yr ŵyl.

Ymunwch â ni i addurno eich cymeriad bara sinsir eich hun gan ddefnyddio'r deunyddiau crefft a ddarperir.

Ewch ag ef adref i addurno eich coeden Nadolig chi neu cewch ei ychwanegu at y goeden yn y Senedd.

Bydd bwrdd crefftau’r Nadolig ar agor:

Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr

Dydd Sadwrn 10 Rhagfyr

Dydd Sadwrn 17 Rhagfyr

Dydd Llun 19 – Dydd Gwener 23 Rhagfyr

Dydd Mawrth 3 – Dydd Sadwrn 7 Ionawr

 

Yr amseroedd agor - y Senedd a'r Pierhead: 

Dydd Llun - Dydd Gwener: 09.00 - 16.30 

Dydd Sadwrn a gwyliau banc: 10.30 - 16.30 

Ceir mynediad hyd at 16.00 

Noder: mae'r adeilad ar agor cyn ac ar ôl yr amseroedd agor arferol i ymwelwyr sy'n dod i wylio'r Cyfarfod Llawn, cyfarfodydd pwyllgor a busnes arall y Senedd.

Mynediad am ddim