Llwybr Eira Bae Caerdydd

Cyhoeddwyd 13/11/2023   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 04/12/2023   |   Amser darllen munudau

Mae'r Senedd yn ymuno â llwybr cyffrous y gaeaf ym mis Rhagfyr.

Wedi'i gyflwyno i chi gan Bartneriaid Glannau Bae Caerdydd, mae'r llwybr rhad ac am ddim hwn yn gwahodd pawb i grwydro o amgylch Bae Caerdydd i ddod o hyd i wyth cymeriad â thema yr eira.

Bydd cyfle i chi ennill gwobr bob wythnos, ac os ydych chi gallu gweld beth yw gair yr ŵyl, gallech ennill diwrnod gwych i’r teulu yn y Bae!

Peidiwch ag anghofio ymweld â'r Senedd i gwblhau eich chwiliad!

Ewch i www.visitcardiffbay.info am fwy o fanylion, a gallwch gasglu map mewn lleoliad sy'n cymryd rhan yn y Bae.

Hefyd, ymunwch â ni yn y Senedd ar gyfer crefftau cymeriad eira.

Sylwer, yn anffodus, ni fydd modd gweld y cymeriad eira na’r pos ar ôl 16:30 ar y dyddiadau canlynol: 6 Rhagfyr; 7 Rhagfyr; 13 Rhagfyr; 14 Rhagfyr