Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 19 Chwefror 2008 i’w hateb ar 4 Mawrth 2008
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am swyddogaeth nyrsys cymunedol yng Nghymru. OAQ(03)0778(FM)
2. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â phroblem fandaliaeth mewn mannau cyhoeddus. OAQ(03)0794(FM)
3. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi Dwyrain De Cymru. OAQ(03)0792(FM)
4. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn well yng Nghymru. OAQ(03)0775(FM)
5. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y swyddogaeth y gall undebau credyd ei chwarae o ran rheoli dyledion mewn ardaloedd difreintiedig. OAQ(03)0772(FM)
6. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae’r Prif Weinidog yn bwriadu eu cymryd i leihau’r pwysau sy’n wynebu cymunedau gwledig yng Nghymru. OAQ(03)0770(FM)
7. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): Pa asesiad y mae’r Prif Weinidog wedi’i wneud o effeithiau contract deintyddol y GIG. OAQ(03)0784(FM)
8. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer tai adeiladu newydd carbon niwtral. OAQ(03)0769(FM)
9. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau cyfle cyfartal yng Nghanol De Cymru. OAQ(03)0793(FM)
10. Brynle Williams (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer diogelu iechyd anifeiliaid yng Nghymru. OAQ(03)0771(FM)
11. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at y celfyddydau yng Nghanol De Cymru. OAQ(03)0788(FM)
12. Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Canolfannau Cyngor ar Bopeth yng Nghymru. OAQ(03)0790(FM)
13. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael ynghylch y cynnydd at newid i’r digidol. OAQ(03)0766(FM)
14. Janice Gregory (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu sgiliau peirianneg mewn ysgolion yng Nghymru. OAQ(03)0795(FM) TYNNWYD YN ÔL
15. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu’r Cyfnod Sylfaen. OAQ(03)0786(FM)