Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 23 Mehefin 2010 i’w hateb ar 07 Gorffennaf 2010
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru i’r diwydiant llaeth yng Nghymru. OAQ(3)1106(RAF)
2. William Graham (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi manylion taliadau PAC. OAQ(3)1104(RAF)
3. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi’i wneud ar ddefnyddio neonicotinoidau mewn perthynas â dirywiad yn niferoedd gwenyn. OAQ(3)1105(RAF)
4. Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd a wnaed yn y pedwar maes yn y Cynllun Datblygu Gwledig. OAQ(3)1118(RAF)
5. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer diwydiant amaethyddol Cymru. OAQ(3)1144(RAF)
6. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo cynnyrch Cymru mewn siopau mawr yng Nghymru. OAQ(3)1109(RAF)
7. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)1130(RAF)
8. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sefydlu ombwdsmon uwchfarchnadoedd. OAQ(3)1123(RAF) TYNNWYD YN ÔL
9. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am niferoedd pysgod hela yn afonydd Cymru. OAQ(3)1107(RAF)
10. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i annog mentergarwch gwledig. OAQ(3)1102(RAF)
11. Brynle Williams (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cynnal yn ddiweddar gyda Defra ynglŷn â gwella gwasanaethau iechyd anifeiliaid yng Nghymru. OAQ(3)1132(RAF)
12. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei gweledigaeth am Gymru wledig gynaliadwy. OAQ(3)1137(RAF)
13. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y taliadau sengl yng Nghymru. OAQ(3)1121(RAF)
14. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am goetiroedd Cymru. OAQ(3)1112(RAF)
15. Leanne Wood (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bwysigrwydd lles anifeiliaid yng Nghymru. OAQ(3)1135(RAF) TYNNWYD YN ÔL
Gofyn i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
1. Christine Chapman (Cwm Cynon): Beth mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n ei wneud i wella ansawdd yr amgylchedd mewn cymunedau lleol ar draws Cymru. OAQ(3)1345(ESH)
2. David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i leihau lefel sbwriel yng Nghymru. OAQ(3)1343(ESH)
3. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei blaenoriaethau ar gyfer gweddill y Trydydd Cynulliad. OAQ(3)1338(ESH)
4. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y system gynllunio. OAQ(3)1340(ESH)
5. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cynllun Arbed. OAQ(3)1349(ESH)
6. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynllun Covanta i losgi gwastraff ym Merthyr Tudful. OAQ(3)1352(ESH)
7. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog amlinellu ei pholisïau ar gyfer hyrwyddo ynni dŵr sy’n ystyriol o bysgod. OAQ(3)1354(ESH)
8. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ansawdd aer yn Aberafan. OAQ(3)1341(ESH)
9. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Cyfrif Refeniw Tai yng Nghymru. OAQ(3)1355(ESH)
10. Chris Franks (Canol De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli llygredd aer yng Nghymru. OAQ(3)1357(ESH)
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddal a storio carbon yng Nghymru. OAQ(3)1344(ESH)
12. Brian Gibbons (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr opsiynau ar gyfer awdurdodau lleol i ymgymryd â phrosiectau ynni adnewyddadwy gan gynnwys eu potensial i gynhyrchu incwm. OAQ(3)1369(ESH)
13. David Melding (Canol De Cymru): Pa fesurau sydd ar waith i leihau lefel sbwriel yng Nghanol De Cymru. OAQ(3)1342(ESH)
14. Lynne Neagle (Torfaen): A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drosglwyddo stociau tai yng Nghymru. OAQ(3)1378(ESH)
15. Nick Bourne (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu tai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru. OAQ(3)1372(ESH)