Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 24 Hydref 2007
i’w hateb ar 7 Tachwedd 2007
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol
1. Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch swyddogaeth twrneiod yng Nghynllun Iawndal y Glowyr. OAQ(3)0050(CGE)
2. Mick Bates (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cyngor cyfreithiol y mae wedi’i ddarparu gyda golwg ar gwmpas y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Amddiffyn yr Amgylchedd a Rheoli Gwastraff. OAQ(3)0038(CGE)
3. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cyngor cyfreithiol y mae wedi’i ddarparu i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig. OAQ(3)0042(CGE)
4. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ei ymgynghoriadau ar faterion cyfreithiol nas datganolwyd ar ran Llywodraeth y Cynulliad. OAQ(3)0052(CGE) Tynnwyd yn ôl
5. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu pwerau cyfreithiol Llywodraeth y Cynulliad i gyhoeddi cyfarwyddiadau i Awdurdodau Addysg Lleol ac ysgolion. OAQ(3)0043(CGE)
6. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth yw cysylltiad y Cwnsler Cyffredinol mewn unrhyw faterion cyfreithiol ynglŷn â Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol yn mynd trwy San Steffan. OAQ(3)0062(CGE) W
7. David Melding (Canol De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am unrhyw gyngor cyfreithiol a roddodd ar waith datblygu trefniadaethol Llywodraeth y Cynulliad. OAQ(3)0031(CGE)
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol restru enghreifftiau o’r cyngor cyfreithiol a roddwyd i Weinidogion y Cabinet. OAQ(3)0047(CGE)
9. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A fydd y Gweinidog yn cynnal trafodaethau gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU i drafod gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr. OAQ(3)0034(CGE)
10. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu pwerau cyfreithiol Llywodraeth y Cynulliad i gyhoeddi cyfarwyddiadau i Ymddiriedolaethau Ysbytai’r GIG. OAQ(3)0037(CGE)
11. Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch cynnydd Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol Cymru. OAQ(3)0056(CGE)
12. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y cyngor cyfreithiol y mae wedi’i ddarparu i’r Prif Weinidog hyd yn hyn. OAQ(3)0045(CGE)
13. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mesurir pa mor briodol yw mynegi safbwynt ar faterion sy’n ymwneud a materion cyfreithiol. OAQ(3)0051(CGE) Tynnwyd yn ôl
14. Helen Mary Jones (Llanelli): A yw’r Cwnsler Cyffredinol wedi rhoi unrhyw gyngor cyfreithiol ynghylch sefydlu Confensiwn Cymru Gyfan. OAQ(3)0060(CGE)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal gyda swyddogion y gyfraith yn Llywodraeth y DU ynghylch datblygu cysylltiadau rhynglywodraethol. OAQ(3)0032(CGE)
Gofyn i'r Gweinidog dros Faterion Gwledig
1. Karen Sinclair (De Clwyd): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i hyrwyddo gwerthu cynnyrch Cymreig. OAQ(3)0055(RAF)
2. Jenny Randerson (Canol Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dyfu cnydau ynni yng Nghymru. OAQ(3)0067(RAF)
3. Kirsty Williams (Brecon and Radnorshire): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi eu cael ynghylch dyfodol diwydiant llaeth Cymru. OAQ(3)0071(RAF)
4. Janet Ryder (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cael gydag archfarchnadoedd yng nghyswllt cynnyrch lleol. OAQ(3)0087(RAF)
5. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae polisïau Llywodraeth y Cynulliad yn cefnogi ffermwyr. OAQ(3)0097(RAF)
6. Lynne Neagle (Tor-faen): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am swyddogaeth y sector amaethyddol yng Nghymru o ran cyflawni statws Cenedl Fasnach Deg. OAQ(3)0052(RAF)
7. Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Beth mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wneud i hyrwyddo gwerthu cynnyrch Cymreig. OAQ(3)0079(RAF)
8. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli coedwigaeth yng Nghymru. OAQ(3)0100(RAF) Tynnwyd yn ôl
9. Irene James (Islwyn): Beth mae’r Gweinidog yn ei wneud i wella’r amgylchedd lleol mewn cymunedau gwledig. OAQ(3)0064(RAF)
10. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): Pa drafodaethau y mae’r Gweinidog wedi’u cynnal gydag awdurdodau lleol ynghylch cefnogi ac annog defnyddio cynnyrch a chynhyrchion lleol. OAQ(3)0081(RAF)
11. Helen Mary Jones (Llanelli): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am ei chynlluniau ar gyfer hyrwyddo cynnyrch Cymreig. OAQ(3)0089(RAF)
12. Mohammed Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bysgodfeydd yn Nwyrain De Cymru. OAQ(3)0085(RAF)
13. Karen Sinclair (De Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae’r Comisiwn Coedwigaeth yn ei wneud i annog pobl o gymunedau trefol i ymweld â chefn gwlad Cymru a’i fwynhau. OAQ(3)0084(RAF)
14. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ymateb i’r sylwadau am TB mewn gwartheg a wnaethpwyd yn ddiweddar gan ymgynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU. OAQ(3)0082(RAF)
15. Mike German (De Ddwyrain Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi a gwella gwerthu Cynnyrch Cymreig. OAQ(3)0074(RAF)