Cwestiynau Llafar y Cynulliad a gyflwynwyd ar 27 Mai 2009 i’w hateb ar 9 Mehefin 2009
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth a roddir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i undebau credyd yng Nghymru. OAQ(3)2049(FM)
2. Lesley Griffiths (Wrecsam): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer y misoedd nesaf. OAQ(3)2037(FM)
3. Irene James (Islwyn): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi camu ymlaen yn eich gyrfa yn y GIG. OAQ(3)2040(FM)
4. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dlodi plant yng Nghymru. OAQ(3)2034(FM)
5. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei asesiad diweddaraf o economi Cymru. OAQ(3)2042(FM)
6. Nerys Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ei wneud i gefnogi’r diwydiant twristiaeth yng Ngorllewin Cymru. OAQ(3)2052(FM)
7. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Pa gamau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn eu cymryd i leihau ffigurau diweithdra yng Nghymru. OAQ(3)2051(FM)
8. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ffordd y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cyllido addysg bellach er mwyn gallu cynllunio ymlaen dros gyfnod o flynyddoedd. OAQ(3)2027(FM)
9. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am wariant Llywodraeth Cynulliad Cymru yn sir y Fflint. OAQ(3)2048(FM)
10. Chris Franks (Canol De Cymru): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi’u cael yn ddiweddar gyda Gweinidogion Trafnidiaeth y DU ynglŷn â gwella cysylltiadau rheilffordd. OAQ(3)2047(FM)
11. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu adroddiad cynnydd am y cynllun peilot i wella diogelwch ar gyfer staff y GIG yng Nghymru. OAQ(3)2033(FM)
12. Eleanor Burnham (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y swyddi a gollwyd yn ddiweddar yng Ngogledd Cymru. OAQ(3)2030(FM)
13. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am arweiniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i awdurdodau lleol ynghylch Cynlluniau Datblygu Lleol. OAQ(3)2038(FM)
14. Leanne Wood (Canol De Cymru): Pa sylwadau y mae’r Prif Weinidog wedi’u gwneud ynghylch toriadau Llywodraeth y DU yn y sector cyhoeddus. OAQ(3)2046(FM)
15. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i wella darpariaeth gwasanaethau niwrogyhyrol yng Nghymru. OAQ(3)2041(FM)